Mae tri dyn wedi cael eu carcharu ar ôl torri i mewn i dŷ ac ymosod ar ddyn gyda morthwyl a chyllell ar nos galan.
Fe orfododd Miles Bishop, Mohammed Ahmed a Timothy Bodell eu ffordd i mewn i dŷ yn Stryd Lammas, Caerfyrddin, cyn curo’r dioddefwr gyda morthwyl a chyllell ac yna ei adael yn gwaedu wrth iddyn nhw ffoi.
Arestiwyd y tri dyn o Benbre a Chydweli yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw gan Heddlu Dyfed-Powys.
“Roedd hwn yn ddigwyddiad cas iawn, a adawodd y dioddefwr gydag anafiadau corfforol sylweddol thrawma hir dymor” meddai’r Ditectif Sarjant dros dro, Mathew Nelson.
“Roedd y tri dyn wedi meddwl am gynllun i dorri i mewn i’w gartref gan wisgo balaclafas a defnyddio acenion ffug, cyn bygwth trywanu ci ei ffrind ac ymosod arno.
“Roedd yr ymosodiad mor greulon, yn ei alwad cychwynnol i’r heddlu, disgrifiodd ffrind y dioddefwr fod ‘gwaed ym mhobman’ ac ofnai fod ei gi wedi ei ladd.”
Arestio a dedfrydu
Arestiwyd Timothy Alun Bodell, 31 oed o Heol Danlan ym Mhenbre, a Miles Bishop, 29 oed, o Barc Pendre yng Nghydweli, mewn tŷ ym Mhorth Tywyn.
Arestiwyd Mohammed Ahmed, 19 oed, sydd ddim yn meddu ar gyfeiriad sefydlog, yn Ffordd yr Orsaf, Llanelli.
Cyfaddefodd Timothy Bodell a Mohammed Ahmed a chafodd y ddau eu dedfrydu i naw mlynedd yn y carchar.
Gwadodd Miles Bishop y cyhuddiad ac fe’i cafwyd yn euog yn dilyn treial a barodd dridiau yn Llys y Goron Abertawe.
Cafodd ei ddedfrydu i 12 mlynedd yn y carchar.