Mae menter gymunedol ym Mhenygroes, Gwynedd, yn cefnogi’r gymuned leol i gadw mewn cysylltiad trwy’r pandemig.

Diolch i grant o £29,916 gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, mae Siop Griffiths Cyf am allu ymateb i ofynion yr ardal leol yn ystod y cyfnod yma.

Bydd y grant yn golygu y gall 50 o wirfoddolwyr gefnogi bron i 100 o bobl fregus, gan helpu i ateb y galw cynyddol wrth i’r gymuned wynebu heriau economaidd newydd o ganlyniad i’r pandemig.

Bydd y grant hefyd yn ariannu partneriaeth rhwng Siop Griffiths Cyf, caffi’r orsaf, a’r Co-Op i ddefnyddio gwastraff bwyd o’r Co-Op lleol i wneud 50 pryd y dydd am bum diwrnod yr wythnos, ac i ddosbarthu bagiau bwyd.

Yn y tymor hir, bydd yr arian yn helpu i ddatblygu prosiect i dyfu bwyd i deuluoedd trwy sefydlu rhandiroedd, gardd wyllt gymunedol ac ardal ddysgu awyr agored.

“Rydym yn ddiolchgar iawn i Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol” meddai Ben Gregory, ysgrifennydd y grŵp cymunedol Siop Griffiths Cyf.

“Bydd yr arian hwn yn ein galluogi i gefnogi ein cymunedau ymhellach a chyflogi swyddog datblygu llawn amser a chogydd rhan-amser am chwe mis i ddatblygu ymateb y gymuned.”

Cydweithio

Dywedodd Ruth Bates, Pennaeth rhanbarth Gogledd Cymru Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol fod y dull hwn o’r gymuned yn arwain yn enghraifft wych o sut mae gwirfoddolwyr sy’n cydweithio i ddarparu ymateb cymunedol i COVID-19 yn helpu’r rheini sydd ei angen fwyaf.

“Diolch i’r rhai sy’n chwarae’r Loteri Genedlaethol am ei gwneud hi’n bosibl ariannu prosiectau fel hyn sy’n gwneud gwahaniaeth enfawr i fywydau cymaint o bobl ym Mhenygroes.”