Mae dyn wedi cael ei saethu’n farw gan swyddogion yn dilyn yr hyn mae’r heddlu’n ei alw’n “ddigwyddiad” yn Glasgow.

Mae adroddiadau’n awgrymu bod y dyn yma wedi trywanu tri pherson yn farw ar risiau gwesty yng nghanol y ddinas.

Yn ôl Ffederasiwn Heddlu’r Alban, cafodd heddwas ei drywanu, ac mae yna blismyn o hyd y tu allan i Park Inn, Stryd West George. Mae chwe pherson arall yn yr ysbyty.

Mae datganiad gan Heddlu’r Alban yn dweud bod y sefyllfa “dan reolaeth”, a bod dim bygythiad i’r cyhoedd.

“Ofnadwy”

“Mae’r adroddiadau o Ganol Dinas Glasgow yn ofnadwy,” meddai Nicola Sturgeon, Prif Weinidog yr Alban. “Dw i’n cydymdeimlo â phawb sydd wedi bod ynghlwm â hyn.

“Helpwch y gwasanaethau brys i wneud eu swyddi trwy gadw draw o’r ardal – a plîs peidiwch â rhannu gwybodaeth sydd heb ei gadarnhau.”