Craig Bellamy gyda chry Caerdydd

Newyddion chwaraeon mawr yr wythnos…os nad y ganrif, yw trosglwyddiad capten Cymru, Craig Bellamy, o Man City i Gaerdydd. Owain Schiavonr sy’n trafod nifer o gwestiynau sydd wedi codi yn sgil y ddêl.

Mae’r peth yn swnio’n swreal i ddweud y lleiaf, ac mae’n siŵr fod cefnogwyr Caerdydd yn dal i binsio eu hunain gan feddwl mai breuddwydio y maen nhw!

Craig Bellamy yn disgyn safon i Bencampwriaeth Lloegr er mwyn chwarae i’r tîm y mae’n eu cefnogi ers pan oedd yn blentyn gyda’r bwriad o sicrhau eu bod yn cyrraedd Uwch Gynghrair Lloegr.

Mae Bellamy’n siarad am ei drosglwyddiad ar fenthyg a gadarnhawyd ddoe,  fel ‘gwireddu breuddwyd’ ac mae’r freuddwyd yn sicr wedi dod yn wir i nifer o selogion y clwb gyda rhai yn honni mai dyma’r trosglwyddiad mwyaf arwyddocaol yn hanes yr Adar Gleision.

Er mor gyffrous ydy’r newyddion, mae nifer o gwestiynau’n codi o’r mater.

Gallu ariannol Caerdydd

Y cyntaf, ac o bosib yr un fydd yn peri’r gofid mwyaf i’r cefnogwyr, ydy’r cytundeb ariannol. Mae’n ymddangos y bydd Bellamy’n dal i dderbyn ei gyflog llawn yn Man City o £95,000 yr wythnos am y cyfnod y mae ar fenthyg yng Nghaerdydd.

Does dim sicrwydd ynglŷn â faint yn union o’r swm hwn y mae Caerdydd yn gyfrifol am ei dalu, a’r gred yw bod Man City yn parhau i dalu’r mwyafrif. Wedi dweud hyn, os ydy Caerdydd yn gyfrifol am dalu oddeutu chwarter y swm fel y mae llawer yn amau, yna mae’n dal i fod yn dolc fawr i glwb sydd wedi bod mewn trafferthion ariannol dybryd yn ddiweddar.

Cofiwch chi, efallai bod y ddêl yn benderfyniad busnes digon craff gan y rhai sy’n rheoli yn y brifddinas – mae Bellamy’n sicr o ddenu’r torfeydd ac os bydd yn cael yr impact y maen nhw’n gobeithio amdano ar y cae yna bydd Stadiwm Dinas Caerdydd yn llawn dop wrth i’r tîm frwydro am eu lle yn yr Uwch Gynghrair.

 Mae’r holl fater wedi agor nyth cacwn arall i Brif Weithredwr Caerdydd, Gethin Jenkins, sef bygythiad cyfreithiol gan Motherwell yn yr Alban, sy’n dweud fod ar yr Adar Gleision ddyled o tua £200,000 iddynt nhw. Ond, busnes ydy busnes, ac mae’n annhebygol y bydd Jenkins yn colli gormod o gwsg ynglŷn â’r mater wrth edrych ymlaen at gyfri’r arian tocynnau ar gyfer ymddangosiad cyntaf Bellamy yn erbyn Doncaster ddydd Sadwrn.

Lle i chwarae Bellamy?

Cwestiwn arall fydd yn ennyn ar drafodaeth frwd ymysg cefnogwyr Caerdydd ydy ble fydd y rheolwr, Dave Jones, yn dewis chwarae capten Cymru? Mae gan Gaerdydd eisoes un o’r llinellau blaen mwyaf cyffrous y tu allan i’r Uwch Gynghrair rhwng Chopra, Bothroyd, Whittingham a Burke – mae’n anodd gweld lle all Jones ffitio Bellamy heb aflonyddu ar y tîm.

Mae’r rhan fwyaf o wybodusion yn gytûn mai y llynedd oedd tymor gorau gyrfa Bellamy hyd yn hyn, ac yntau’n chwarae ar yr asgell chwith i Man City – yr un safle ag y perfformiodd mor ddinistriol i Gymru yn erbyn Lwcsembwrg yr wythnos diwethaf. Mae’n taro felly mai yno y bydd Jones yn awyddus i’w weld yng nghrys glas Caerdydd … ond ar draul Peter Wittingham oedd yn brif sgoriwr yr holl adran y llynedd?

Does dim llawer o sgôp gan Jones o ran symud un o’i chwaraewyr ymosodol i ganol y cae chwaith gan fod y chwaraewyr newydd Seyi Olofinjana a Daniel Drinkwater wedi edrych yn dda yn eu gemau cyntaf yn y safleoedd hynny. Rhaid cofio hefyd am un dyn arall sydd wedi arwyddo i City a fyddai, oni bai am saga Bellamy, yn cael sylw eang gan y wasg – Jason Koumas.

Mae Koumas yn un o chwaraewyr canol cae gorau’r wlad ar ei ddydd ac fe fydd yntau’n cystadlu am le yn y tîm ddydd Sadwrn hefyd. O fod mewn sefyllfa lle nad oedd modd iddo arwyddo chwaraewyr o gwbl rai wythnosau nôl, mae gan Dave Jones erbyn hyn ormodedd o dalent ar ei ddwylo – problem, ond problem neis i’w chael!

Cadw trefn ar yr hogia drwg

Mae rhestru’r enwau uchod yn atgoffa rhywun o gofrestr bechgyn drwg cynghrair pêl-droed Lloegr dros y blynyddoedd diwethaf! Mae Chopra, Bothroyd, Wittingham a Koumas oll wedi bod yn y newyddion am y rhesymau anghywir ac yn adnabyddus fel chwaraewyr ‘anodd’ i’w rheoli.

Mae’n brawf o sgiliau rheoli personél Dave Jones ei fod wedi llwyddo i blethu’r enwau yma yn dîm cytûn, ond sut fydd y chwaraewyr uchod yn ymateb i bersonoliaeth danllyd a phregethu diddiwedd Bellamy ar y cae. Os oes yna un rheolwr all ddygymod â’r sialens, heb os Jones ydy hwnnw. Bydd Bellamy hefyd yn mynnu’r safonau uchaf gan ei gyd chwaraewyr a gall hynny ond bod yn beth da i’r tîm.

Effaith ar y tîm cenedlaethol

Y cwestiwn mawr sy’n parhau yn fy meddwl i ydy sut effaith fydd y trosglwyddiad yn ei gael ar bêl-droed Cymru? O safbwynt datblygiad ehangach pêl-droed y wlad, mae’n beth cadarnhaol wrth gwrs gan ei fod yn cynyddu’r gobaith o gael un o’n clybiau yn yr Uwch Gynghrair a hefyd yn codi diddordeb yn y gêm.

Gan gymryd nad ydy’r clwb wedi ymestyn eu hunain yn ormodol yn ariannol, fe ddylai’r trosglwyddiad dalu ei ffordd gyda gwerthiant tocynnau a chrysau Caerdydd, ac os bydd Caerdydd yn ennill dyrchafiad bydd hynny’n ddiwedd ar eu trafferthion ariannol presennol. Bydd cael tîm yn yr Uwch Gynghrair hefyd yn hwb ariannol mawr i economi Caerdydd, heb sôn am godi hyder yn y ddinas, a’r wlad yn gyffredinol.

Byddai rhywun yn disgwyl i hyn oll gael effaith gadarnhaol ar y tîm cenedlaethol hefyd wrth iddyn nhw gystadlu am le yn rowndiau terfynol Pencampwriaethau Ewrop 2012. Os am gyrraedd y nod, bydd angen i Gymru sicrhau fod eu capten ar ei orau a 100% yn ffit … ac yno mae’r gofid i gefnogwyr y tîm rhyngwladol. Mae’r Bencampwriaeth yn cael ei gweld yn un o’r cynghreiriau caletaf ohonyn nhw i gyd.

Bydd disgwyl i Bellamy chwarae yn y mwyafrif o’r 44 gêm gynghrair sydd gan Gaerdydd yn weddill, heb sôn am gemau cwpan di rif a gemau ail-gyfle’r gynghrair petai nhw’n gorffen rhywle rhwng trydydd a chweched safle yn y gynghrair. I chwaraewr sydd wastad wedi’i chael hi’n anodd ymdopi ag anafiadau, bydd hon yn dymor caled.

Mae’n anochel hefyd y bydd Bellamy’n darged i rai o amddiffynwyr caled y gynghrair – un dacl galed wedi ei cham amseru ac fe allai Bellamy a’i bengliniau fod wedi’i hanafu am y tymor. Ond, fel y dywedodd Bellamy ddoe, mae ‘wedi tyfu i fyny yn yr adran yma’ ac mae’n chwaraewr digon profiadol a chlyfar erbyn hyn i ymdopi â’r sialens tra bod Dave Jones hefyd yn rheolwr digon doeth i wybod pryd i orffwys y chwaraewr.

Amser a ddengys ynglŷn â’r cwestiynau uchod, ond am y tro, beth am edrych mlaen i weld un o chwaraewyr Cymreig gorau ei genhedlaeth yn chwarae ei gêm gyntaf i Gaerdydd ddydd Sadwrn.

Llun: Gwifren PA