Mae Prif Weinidog Prydain wedi cael ei rybuddio y gallai pobol farw os bydd y Llywodraeth yn cael gwared ar daliadau tanwydd i bensiynwyr.

Roedd David Cameron wedi addo gwarchod y taliadau yn ystod ymgyrch yr Etholiad Cyffredinol ond mae yna ddyfalu’n awr y gallai’r system gael ei diwygio.

Roedd “anonestrwydd” y Prif Weinidog yn “annerbyniol” yn ôl David Miliband, un o’r ymgeiswyr am arweinyddiaeth y Blaid Lafur tra bod Ysgrifennydd Cyffredinol undeb Unsain yn rhybuddio am y canlyniadau.

“Allwn ni ddim dechrau galw ein hunain yn gymdeithas wâr os yw’r Llywodraeth Con-Dem yn caniatáu i bobol oedrannus eistedd yn yr oerfel neu rewi i farwolaeth yn eu cartrefi,” meddai Dave Prentis.

Roedd y Dirprwy Brif Weinidog, Nick Clegg, yn condemnio’r dyfalu, gan ddweud na fyddai unrhyw benderfyniad yn digwydd tan yr hydref.

Roedd y Llywodraeth, meddai, yn benderfynol o dorri ar wario ac o sicrhau system les symlach a thecach.

Torri’r symiau?

Mae amryw o sylwebyddion yn y cyfryngau’n sôn am doriadau yng nghyfansymiau’r taliadau, sydd werth £250 y flwyddyn i’r rhan fwya’ o bensiynwyr a £400 i rai tros £80.

Mae’n un o’r taliadau sydd ar gael i bawb, waeth pa mor gyfoethog ydyn nhw, ac mae’n costio tua £2.7 biliwn y flwyddyn.

Un newid tebygol yw y bydd rhaid i bobol fod yn 65 cyn ei dderbyn ac y bydd wedyn yn symud gydag oed pensiwn.

Budd-dal arall sy’n cael ei drafod yw budd-dal plant – un posibilrwydd fyddai ei gadw i deuluoedd tlawd yn unig.

Llun: Dave Prentis