Mae Morgannwg mewn peryg o golli’n annisgwyl a cholli eu gafael ar frig Ail Adran y Bencampwriaeth.
Wrth nesu at ddiwedd y trydydd diwrnod o bedwar yn erbyn Middlesex, roedd y tîm o Lundain yn mynd yn dda yn eu hail fatiad ar lain a oedd fel petai’n ffafrio’r bowlwyr.
Fe lwyddodd Morgannwg i gael sgôr uwch na’r disgwyl yn eu hail fatiad nhwthau, gan gyrraedd 232 i’w rhoi 249 ar y blaen – tipyn mwy na sgôr yr un o’r ddau dîm yn y batiad cynta’.
Yr arwr oedd James Allenby a gyrhaeddodd 91 heb fod allan, gyda chymorth ei gapten Jamie Dalrymple a’i fawd tost a’r bowliwr David Harrison.
Ar ôl 52 pelawd, roedd Middlesex wedi cyrraedd 150 am e, gan fygwth cyfanswm Morgannwg – er eu bod newydd golli un o’u batwyr gorau, Owais Shah.
A’r newyddion drwg arall yw fod Sussex, sydd yn ail y tu ôl i Forgannwg, yn mynd yn dda ar ddiwrnod cynta’u gêm nhw.
Llun: Jim Allenby