Fe fu’n rhaid i bennaeth tros dro newydd S4C amddiffyn ei CV ar un o raglenni radio’r BBC.
Yn ystod cyfweliad am ddyfodol y sianel, fe gafodd Arwel Ellis Owen ei herio tros ddatganiad ar wefan ei gwmni teledu annibynnol, Cambrensis.
Yn ôl yr holwr ar The Media Show, roedd y cyn uchel swyddog yn y BBC wedi honni’n anghywir ei fod wedi bod yn olygydd ar raglenni amlwg fel Newsnight a Panorama.
‘Rôl allweddol’
Yn ôl Arwel Ellis Owen, doedd e ddim wedi ceisio honni ei fod yn olygydd ar y cyfresi ond ei fod wedi bod â rôl allweddol yn y broses olygyddol mewn rhaglenni unigol.
“Do’n i ddim yn olygydd ar y rhaglenni, mae hynny’n sicr,” meddai, “ond roedd gen i ran olygyddol yn y rhaglenni hynny.
“Mae gan Bennaeth Rhaglenni yng Ngogledd Iwerddon rôl allweddol i’w chwarae yn y drefn reoli ac o ran ymgynghori golygyddol. Ac roedd gen i ran mewn nifer o raglenni ar yr ochr olygyddol.”
Wedi cyfnodau yng Nghaerdydd a Llundain fel golygydd rhaglenni materion cyfoes a newyddion megis Week in Week Out, Panorama a Newsnight fe apwyntiwyd Arwel yn Bennaeth Rhaglenni yn BBC Gogledd Iwerddon ym 1985.
Y CV – beth sydd ar wefan Cambrensis
“Wedi cyfnodau yng Nghaerdydd a Llundain fel golygydd rhaglenni materion cyfoes a newyddion megis Week in Week Out, Panorama a Newsnight fe apwyntiwyd Arwel yn Bennaeth Rhaglenni yn BBC Gogledd Iwerddon ym 1985.”
Llun: Arwel Ellis Owen