Fe fydd S4C yn lansio “ymgyrch gefnogaeth” i’r sianel yn ystod yr wythnosau nesa’.
Dyna ddywedodd Prif Weithredwr tros dro’r sianel wrth gael ei holi ar brif raglen gyfryngau’r BBC.
Fe ddywedodd Arwel Ellis Owen wrth The Media Show ar Radio 4 y bydden nhw’n ceisio dangos pa mor bwysig yw S4C yn economaidd ac yn ddiwylliannol.
Er nad oedd rhagor o fanylion, mae Golwg 360 yn deall bod “ymgyrch” yn golygu codi proffil y sianel, gyda negeseuon ar y sgrin a chyfarfodydd gyda phobol allweddol.
Cyfarfodydd ac arolwg
Fe fydd Arwel Ellis Owen yn cyfarfod cynhyrchwyr annibynnol y sianel ar gyfer cyfres o weithdai ddydd Sul ac mae astudiaeth o’i gwerth economaidd eisoes ar y gweill.
Fe fydd y penaethiaid hefyd yn debyg o gyfarfod gyda gwleidyddion wrth i S4C ymladd i ddod tros y sylw anffafriol adeg diswyddo’r cyn Brif Weithredwr Iona Jones ac wrth ymladd bygythiadau o doriadau sylweddol.
Fe ddywedodd Arwel Ellis Owen heddiw nad oedd modd osgoi toriadau’n llwyr ond bod rhaid ceisio eu cadw “o fewn rheswm”.
Roedd yna ddadleuon cry’ yr oedd modd eu cyflwyno er mwyn cadw nawdd ariannol S4C fel y mae, gyda £100 miliwn y flwyddyn yn dod o Adran Dreftadaeth y DCMS yn Llundain.
Mewn cyfweliad arall ar yr un rhaglen, fe ddywedodd cyn bennaeth y BBC yng Nghymru, Geraint Talfan Davies, y gallai S4C ddadlau y dylai hi gael ei thrin yr un peth â’r Gorfforaeth.
Arwel yn amddiffyn ei CV fan hyn.
Llun: O wefan S4C