Mae dau fachgen 11 oed wedi cael gorchymyn goruchwylio sy’n para tair blynedd am geisio treisio merch wyth oed.
Deg oed oedd y ddau fis Hydref y llynedd pan ddywedodd y ferch wrth ei mam eu bod wedi ymosod arni yn Hayes, gorllewin Llundain.
Fe gafwyd y bechgyn yn ddieuog o dreisio ond yn euog o ddau gyhuddiad o geisio treisio, a hynny o fwyafrif o 10 i 2 yn Llys yr Old Bailey.
Roedd bargyfreithwyr yr amddiffyn wedi honni mai ‘chwarae gêm fel doctors a nyrsys’ yr oedd y bechgyn ar y pryd.
Lles y bechgyn
Wrth ddedfrydu heddiw fe ddywedodd y barnwr, Ustus Saunders: “Nid wyf yn derbyn bod yr hyn a ddigwyddodd yn gêm. Ond, dw i yn derbyn nad oeddech yn sylweddoli pa mor ddifrifol oedd yr hyn yr oeddech chi’n ei wneud.”
Fyddai caethiwo’r bechgyn ddim er eu lles nhw, meddai’r Barnwr.
Roedd y Barnwr ar yr achos gwreiddiol wedi codi amheuon am ddod ag achos o’r fath i lys oedolion.
Sylwadau Ustus Saunders
“Mae’r rheithgor wedi penderfynu eich bod wedi gwneud rhywbeth mawr o’i le. Petaech chi’n hŷn, byddai canlyniadau difrifol iawn.
“Ond, gan eich bod mor ifanc, mae’r llys yn pryderu am yr hyn sydd orau i chi, gyda’r nod o sicrhau nad ydych yn gwneud dim byd tebyg eto.
“Mae hynny’n golygu fod rhaid i chi gael help i ddeall difrifoldeb yr hyn a ddigwyddodd.
“Gobeithio [hefyd] y bydd y ferch fach yn cael yr holl help y mae yn sicr yn ei haeddu wedi ei phrofiadau.
“Dw i’n gobeithio yn fawr iawn na fydd hi a’i theulu yn mynd yn cael eu hanghofio gan yr awdurdodau.”
Llun: Llys yr Old Bailey (Nevilley – Trwydded GNU)