Meddwl am bobol o Gymru yr oedd Alex Jones wrth gyflwyno un o brif raglenni’r BBC am y tro cynta’.
Fe ddywedodd wrth Golwg 360 ei bod yn wynebu dwy sialens fawr – cyflwyno rhaglen The One Show am bum niwrnod bob wythnos a rheoli ei hiraeth am Gymru.
Fe broffwydodd y gyflwynwraig 32 oed o Rydaman y byddai penaethiaid teledu yn Llundain yn chwilio am ragor o gyflwynwyr o Gymru.
“Mae S4C wedi meithrin cyflwynwyr ofnadwy o dda – petai pobol ddim ond yn deall faint o dalent sydd ‘na.
‘Sylw positif’
“Dw i’n credu y byddan nhw’n edrych fwy am gyflwynwyr o Gymru nawr,” meddai, cyn pwysleisio mai un peth da am gyflwyno’r rhaglen newydd yw’r “sylw positif” a ddaw i S4C yn ei sgil.
Fe ddechreuodd gyflwyno The One Show nos Lun ac mae wedi cael adolygiadau cymysg ers hynny – rhai’n ei chyhuddo o fod yn nerfus ond eraill yn darogan dyfodol disglair.
Wrth iddi hi a’i chyd-gyflwynydd, y digrifwr Jason Manford gymryd yr awenau, mae yna bwysau mawr arnyn nhw ar ôl llwyddiant mawr y rhaglen o dan eu rhagflaenwyr.
Mae’r cyfweliad llawn fan hyn.
Llun: Alex Jones a’i chyd-gyflwynydd James Manford.