Meddwl am bobol Cymru yr oedd Alex Jones wrth iddi eistedd ar soffa enwog i ddechrau cyflwyno un o brif raglenni’r BBC yn Llundain.

“Dw i ddim yn meddwl y byddai’r ddwy raglen gyntaf cystal heb gefnogwyr, cyd-weithwyr a ffrindiau yng Nghymru,” meddai’r gyflwynwraig o Rydaman hanner ffordd trwy’i wythnos gyntaf ar y One Show.

Roedd meddwl am y gefnogaeth yn ôl gartre’ wedi gwneud y swydd yn “haws” meddai mewn cyfweliad arbennig gyda Golwg360.

Ond mae wedi datgelu hefyd ei bod wedi bod yn meddwl yn Gymraeg wrth holi enillydd Oscar ar y rhaglen gynta’ nos Lun.

“Ro’n i’n edrych ar Whoopi Goldberg ac yn meddwl am y cwestiwn yn Gymraeg. Diolch byth ei fod o wedi dod allan yn Saesneg,” meddai.

Holi Whoopi

Wrth gyfarfod â’r actores enwog, sydd yn y West End yn Llundain ar hyn o bryd, roedd hi wedi egluro ei bod hi’n gwneud ei rhaglen gynta’.

“Fe ddyweodd hithau ei bod hi am ein helpu ni. Roedd hi mor mor neis,” meddai. “Wnes i erioed feddwl y bydden i’n cael cyfweld Whoopi Goldberg.”

Heddiw, fe fydd hi’n holi cyn actores y gyfres Baywatch, Pamela Anderson, ac ar dir mwy cyfarwydd, yn cyflwyno côr Cymraeg.

Diolch i S4C

Ar ôl deng mlynedd yn cyflwyno rhaglenni ar S4C, mae’r ferch 32 oed yn dweud fod cyflwyno’r One Show yn ddigon tebyg, er ei bod yn cael ei hystyried yn un o raglenni pwysica’r BBC o ran cynulleidfa boblogaidd.

Roedd y diolch am yr hyn mae wedi’i gyflawni hyd yn hyn yn mynd i S4C, meddai, gan awgrymu bod yna lawer rhagor a allai lwyddo y tu allan i Gymru.

‘Lot o dalent’

“Mae S4C wedi meithrin cyflwynwyr ofnadwy o dda – petai pobol ddim ond yn deall faint o dalent sydd ‘na.

“Dw i’n credu y byddan nhw’n edrych fwy am gyflwynwyr o Gymru nawr,” meddai, cyn pwysleisio mai un peth da am gyflwyno’r rhaglen newydd yw’r “sylw positif” a ddaw i S4C yn ei sgil.

‘Anodd gadael’

Fe ddywedodd ei bod yn “anodd gadael cydweithwyr yng Nghymru” ac mai dwy sialens fawr sydd o’i blaen – “cyflwyno rhaglen fyw bum niwrnod yr wythnos a pheidio â cholli gartref ormod”.

Dyw’r holl negeseuon o gefnogaeth o Gymru ddim wedi helpu i leddfu’r hiraeth, er mai dim ond dwyawr yw hi o Gaerdydd.

“Mae pawb mor gyfeillgar, ond pan di fi wedi gweithio gyda’r bobol ‘ma era 10 mlynedd mae’r negeseuon lyfli bron â gwneud i fi eu colli nhw’n fwy!”

Llun: Alex Jones (Gwifren PA)