Mae adroddiadau bod wrn gyda gweddillion Raoul Moat ynddo wedi cael ei adael yn y fan lle bu farw’r lladdwr ym mis Gorffennaf.
Mae Steven Bridgett, sy’n gynghorydd lleol yn Tothbury yn Northumberland, yn dweud bod trigolion lleol wedi gweld aelodau o’r teulu yn yr union fan lle bu Moat farw ar ôl gwarchae heddlu y mis diwetha’.
Ac mae llun o wrn – a oedd, yn ôl yr honiad, wedi ei adael ar y safle, wedi cael ei gyhoeddi mewn papur newydd.
Roedd teulu Raoul Moat wedi honni bod ei lwch wedi cael ei wasgaru yn Afon Coquet rai milltiroedd tu allan i’r dref er mwyn iddyn nhw gael eu cario gan y dŵr heibio i’r fan lle bu farw.
‘Fel cofeb’
Ond mae’r Cynghorydd Steven Bridgett yn honni bod gadael wrn ar y safle yn dangos “amarch” tuag at bobol y dref, sy’n ceisio byw eu bywyd bob dydd.
“Mae gadael wrn yno fel gadael cofeb iddo,” meddai, gan ddweud hefyd fod pobol leol wedi cael digon ar ymwelwyr yn dod i weld y safle.
Fe saethodd Raoul Moat ei hun yn Rothbury ar 10 Gorffennaf ar ôl ceisio osgoi’r heddlu am wythnos.
Roedd wedi saethu ei gyn bartner, wedi lladd ei chariad hi, a saethu heddwas wythnos cyn hynny.