Mae’r Pwyllgor Argyfyngau wedi cyhoeddi bod apêl llifogydd Pacistan wedi codi £19miliwn hyd yn hyn ac wedi cyrraedd 700,000 o bobol.
Ond mae pennaeth un o’r elusennau yng Nghymru’n rhybuddio bod rhagor i’w wneud wrth i’r trychineb barhau.
“Mae haelioni ymateb y cyhoedd i’r trychineb hwn wedi parhau i gynyddu, er gwaethaf y naws o ansicrwydd ariannol a’r straen sy’n cydio yn y wlad ar hyn o bryd,” meddai Jeff Williams o Cymorth Cristnogol sy’n Cadeirio Pwyllgor Argyfyngau Cymru.
“Ond mae llifogydd yn parhau i chwyddo a lledaenu i bentrefi mwy, mae disgwyl rhagor o law ac mae’r bygythiad yn parhau fod achosion o glefydau angheuol yn lledaenu. Rydym yn delio â sefyllfa argyfwng dal o hyd,” meddai.
Mae’r trychineb eisoes wedi hawlio bywydau 1,600 o bobol ac wedi effeithio ar 20 miliwn. Heddiw, fe awgrymodd un o arbenigwyr tywydd y wlad y gallai gymryd pythefnos i’r dyfroedd gilio.
Y newyddion da yw nad oes argoel o ragor o law yn y dyddiau nesa’ gan roi ysbaid i’r gweithwyr achub geisio gyrraedd rhannau anghysbell o’r wlad.
Mae’r pwyllgor yn dal i apelio am roddion drwy <http://www.dec.org.uk/>.
Llun: Pobol yn ciwio am fwyd (AP Photo)