Mae hen ddigon yn ac wedi cael ei ddweud am ymgyrch Treganna ac af fi ddim i ymhelaethu rhagor ar yr ymgyrch yn yr eisteddfod, gallwch ddarllen am hynny yma. Ond mae’r posteri oedd ar ei stondin nhw’n y steddfod wythnos diwethaf werth ei dangos. Marciau llawn am wreiddioldeb!
Iwan Lloyd Jones
Dim yn unig does hawliau digonol i gael addysg Gymraeg ond mae hefyd diffygion mae angen i’r Cynulliad edrych arno fel y canlynol:
Pam does dim hawliau cyfreithiol i bobl Cymru ddefnyddio’r Gymraeg yn eu bywydau pob dydd ?
Pam nad oes hawl statws swyddogol gan y Gymraeg ?
Pam does dim hawl i ddefnyddio’r Gymraeg yn y gwaith – rwy’n meddwl am yr achos diweddar yn y gwesty yn Sir Fon ?
Pam fod hawl gan gwmnïau mawrion yr hawl i geisio osgoi unrhyw ofyniad am wasanaethau Cymraeg er bod y Cymry Cymraeg yn defnyddio ei gwasanaethau pob dydd ?
Pam does ddim hawl gan yr unigolyn i sicrhau bod nhw’n gallu defnyddio’r Gymraeg wrth ddefnyddio gwasanaethau cyhoeddus ?