Eleni, gwerthodd tocynnau Gŵyl y Dyn Gwyrdd yn yr amser byrraf erioed, ond mae Golwg 360 am roi’r cyfle i chi ennill dau docyn er mwyn ymuno â’r 12,000 o eneidiau tebyg a fydd yn teithio i Fannau Brycheiniog ar Awst 20/21/22.
Bydd y Doves, The Flaming Lips a’r fendigedig Joanna Newsom yn arwain y lein-yp gorau erioed sy’n golygu mwy na 100 o actau anhygoel ar saith llwyfan gwych, gan gynnwys llawer o dalent o Gymru.
Yn ogystal, bydd yna wledd o adloniant yn y Babell Gomedi, y Babell Lên a’r Babell Sinema, cyfle i ymlacio ym Mhabell Chai Wallahs, cyfle i brocio’r meddwl yng Ngardd Einstein, Ardal Blant wych a digonedd o ddiddanwyr yn crwydro o le i le.
O nabod y Dyn Gwyrdd, mae’n siŵr y bydd ganddo ambell i syrpreis arall hefyd – mae’n argoeli mai hon fydd y sioe fwyaf cofiadwy hyd yma.
Er mwyn y cyfle i ennill dau docyn, atebwch y cwestiwn hwn:
Yn ôl stori a gyhoeddwyd ar Golwg 360 yn ddiweddar, bydd dau frawd o Gymru yn chwarae am y tro cyntaf yng Ngŵyl y Dyn Gwyrdd 2010 – beth yw enw’r band?
Anfonwch eich atebion ar e-bost trwy glicio yma, neu at cystadleuaeth@golwg.com.
Yr ateb cywir cynta’ o’r het fydd yn ennill. Amser cau’r gystadleuaeth: Hanner dydd, Mercher, Awst 18.
Mae’r gystadleuaeth wedi cau – llongyfarchiadau mawr i’r enillydd, Hefin Jones.