Cwrddes i â phersonoliaeth a hanner bnawn Sadwrn, Dai o Abersychan. Fel amryw i un yn ystod yr wythnos, yn clywed criw o Gymry ifanc yn siarad Cymraeg yn rhwydd, fe ddaeth aton ni i holi’n hanes wrth i ni yfed peint bach tawel wrth y bar. Yn fuan iawn, roedd yn egluro pam ei fod yno ar Sadwrn ola’r steddfod gyda’i beint unig yn gwrando ar gerddoriaeth Dafydd Iwan.

My friends asked me last night, “What are you doing tomorrow Dai?” I said “I’m going to the Eisteddfod. £15 and I get to see Dafydd Iwan AND Meic Stevens. Bargain!” They think I’m crazy but it’s good music isn’t it? I don’t need to understand the words.

Roedd e wrth ei fodd. Roedd wedi ymuno â Phlaid Cymru yn y prynhawn ac wedi cael gwir flas ar rialtwch y maes. Yn ei law roedd onnen fechan a gafodd am ddim gan yr Ymddiriedolaeth Coedwigaeth a bellach roedd wedi cael lle ar y fainc i werthfawrogi’r gerddoriaeth wrth iddi nosi. Mae ei wybodaeth o wleidyddiaeth Cymru’n helaeth [bu wrth gwrs drafod ar y refferendwm i gyfeiliant DI] ac er ei fod yn sicr wedi cyrraedd canol oed, mae wrthi’n dysgu ychydig o Gymraeg ac yn dweud yn falch “Gof ydw i.” Roedd yn meddwl bod yr Eisteddfod yn rhyfeddod.

Ei dro cyntaf ar y maes oedd y dydd Mawrth cynt, pan ymwelodd gyda’i fodrabedd. Doedd yr un o’r ddwy’n siwr os oedden nhw eisiau mynd i’r pair Cymreictod oedd wedi glanio ar eu stepen drws -nid welshies mohonyn nhw wedi’r cyfan -ond fe gawson nhw eu perswadio. Erbyn iddyn nhw gerdded hanner ffordd hyd y maes, roedd un fodryb am ddysgu Cymraeg. Roedd yr ail yn dal i fod yn amheus. Erbyn gwneud cylchdro cyfan, roedd hi hefyd ar dasg i ddysgu’r Gymraeg. 

Does dim gwadu, fe ges i fy nghythruddo’n llwyr gan y bobol oedd yn cwyno bod Glyn Ebwy’n rhy bell i eisteddfodwyr y gogledd a’r gorllewin (Sut felly y daethon nhw i Gaerdydd, sy’n bellach?!) ac fy nghythruddo’n fwy fyth gan y lleiafrif oedd yn dweud bod Cymry Glyn Ebwy a’r de orllewin sydd wedi colli eu Cymraeg ddim yn “Gymry go iawn.” Fel merch o Gaerdydd a chynnyrch ysgol lle roedd y mwyafrif o’r disgyblion yn dod o deuluoedd di-Gymraeg, alla i ddim a deall y feddylfryd honno na sut y mae’r bobol yna’n meddwl y gall y Gymraeg oroesi heb bobol sy’n barod i’w dysgu hi, pobol na sydd mor ffodus â nhw i fod wedi ei geni i deuluoedd Cymraeg ei hiaith. Beth bynnag, roedd y sgwrs â Dai o Abersychan yn ddigon i brofi’r amheuwyr yn hollol, gwbl anghywir. Dylai pawb fod wedi dod eleni. Cymry go iawn sydd yng Nglyn Ebwy. Llongyfarchiadau Blaenau Gwent, Steddfod ffantastig.