Dyw gweinyddesau Hooters ddim yn cael eu hecsbloetio, yn ôl dyn busnes sydd am sefydlu’r bwyty yng Nghaerdydd.
Mae William McTaggart yn dweud bod delwedd y trôns tinboeth oren a chrys tyn yn un “iach” yn ôl papur newydd y Western Mail. “Dyna’r brand”, meddai.
Ond mae grŵp ffeministaidd yn dweud bod y merched sy’n gweithio i’r gadwyn – sy’n dod yn wreiddiol o’r Unol Daleithiau – yn cael eu trin fel “gwrthrychau rhywiol”.
Ac mae Rhwydwaith Ffeministaidd Caerdydd wedi bod yn casglu llofnodion ar gyfer deiseb a fydd yn cael ei chyflwyno i swyddogion trwyddedu’r awdurdod yn dilyn protest ddydd Mercher.
Yn ogystal â gwrthwynebu’r hyn y mae merched sy’n gweithio yno yn gwisgo, maen nhw’n poeni yn ogystal am yr hyn sy’n cael ei ddisgwyl ganddyn nhw.
Mae’r rhwydwaith yn honni ar eu gwefan y gallai’r merched orfod arwyddo cytundeb sy’n dweud eu bod yn derbyn fod tynnu coes ac awgrymiadau rhywiol yn rhan o’u gwaith.
Maen nhw hefyd yn honni y byddai agor y safle yn denu ymddygiad gwrthgymdeithasol, yn enwedig petai partïon stag yn cael eu denu yno, fel sydd wedi digwydd – yn ôl eu gwefan – yn yr Hooters arall sydd wedi agor yn Nottingham.
Ac maen nhw’n honni hefyd y gallai agor Hooters yn y ddinas ddenu mwy o’r diwydiant rhyw i Gaerdydd.