Mae Aelod Seneddol wedi galw ar Lywodraeth San Steffan i gael gwared â’r Saethau Cochion.

Mae Jonathan Edwards o Blaid Cymru yn dweud y dylai’r tua £9 miliwn sy’n cael ei wario arnyn nhw gael ei fuddsoddi mewn gwella offer milwyr Prydain yn Afghanistan.

Roedd wedi cael gwybodaeth gan Awyrlu Prydain bod £4.6 miliwn wedi cael ei wario ar beilotiaid a pheirianwyr rhwng 2009 a 2010.

Roedd £1.2 miliwn wedi cael ei wario ar danwydd, a £400,000 ar y lliw sy’n dangos trywydd taith yr awyrennau yn yr awyr.

Cafodd £2.6 miliwn ei wario ar waith cynnal a chadw.

“Y cwestiwn sy’n rhaid i Aelodau Seneddol y Torïaid a’r Democratiaid Rhyddfrydol ofyn i’w hunain yw, a ydyn nhw eisiau gwario arian awyrennau sydd heb unrhyw ddefnydd gweithredol?

“Neu ydyn nhw eisiau darparu’r offer iawn ar gyfer milwyr sydd dan warchae ar y llinell flaen?

“Mae hi’n naïf, pan mae cymaint o wasanaethau cyhoeddus eraill yn cael eu torri, a’r gyllideb Gymreig ei hun yn cael ei dorri tua £160 miliwn, iddyn nhw gael eu gadael allan o’r drafodaeth.”

Saethau Cochion

Mae naw awyren y Saethau Cochon yn enwog am eu campau wrth hedfan drwy’r awyr ac maen nhw’n perfformio mewn digwyddiadau ar draws y byd.

Fe wnaethon nhw ddathlu eu pen-blwydd yn 45 oed flwyddyn ddiwethaf, gan gymryd rhan mewn 82 digwyddiad yng ngwledydd Prydain a 12 digwyddiad tramor.

Mae eu cefnogwyr yn dweud eu bod yn ysbrydoli pobol i ymuno â’r awyrlu, ac yn hybu’r economi drwy ddenu miloedd o bobol i’w gwylio bob blwyddyn.