Daeth Rod Richards mewn i swyddfa’r wasg ar y maes bore ma. Aeth i siarad â’u holl gyfeillion newyddiadurol yn eu tro ac roedd e’n geg fawr i gyd, wrth ei fodd. Roedd am roi stori i fi. Mae wedi penderfynu sut i ddatrys problemau cyllid S4/C. Torri holl gyflogau’r staff rheoli yn eu hanner. Mae siwr o fod wedi dod o hyd i Arwel Ellis Owen erbyn hyn a dweud wrtho y dylai’r Prif Weithredwr dorri cyflog olynydd parhaol Iona Jones o £160,000 y flwyddyn i £80,000 y flwyddyn. A phob swyddog arall gyda hynny achos, meddai Rod, fe fyddai pobol dal yn rhedeg dros ei gilydd i gael y swyddi ar y cyflog bras hynny.
Bwriad arall Rod heddiw oedd corddi’r dyfroedd, mynd i gymaint o gyfarfodydd gwleidyddol â phosibl a dal pen rheswm â phawb mae’n anghytuno â nhw. Doedd ganddo fe ddim cwestiwn i Dafydd El pan oedd e’n trafod cyfansoddiad Cymru ond roedd yn tasgu wrth herio Carwyn Jones ar y pwnc o refferendwm. Aeth e ddim ymhell iawn wrth ddadlau â Carwyn bod Ed Balls yn cytuno â fe Rod bod system gyllido Cymru yn A-OK. “Wel, mae Nick Bourne yn cytuno â fi,” oedd ateb cyflym Carwyn, i fonllefau o chwerthin.