Does dim cymhariaeth rhwng Carwyn Jones ar y maes heddiw a Carwyn Jones ar y maes llynedd.

Llynedd, roedd y gwr fyddai cyn hir yn Brif Weinidog Cymru’n brennaidd, di-gymeriad a diflas tost. Roedd yn syllu’n galed ar ei sgript ac fe fethodd yn llwyr â chyfathrebu â’r dorf oedd wedi dod i’w weld. Heddiw, dywedodd ei fod am siarad o’r frest eleni am fod y goleuo gwael wedi gwneud darllen ei araith llynedd yn amhosibl. Rwy digwydd bod yn gwybod ei fod yn syllu mor galed ar y sgript am ei fod yn cyfieithu ei araith o’r Saesneg i’r Gymraeg tra’n annerch. Dim rhyfedd bod yr araith mor ddi ffrwt.

Ond am wahaniaeth heddiw! Roedd Carwyn yn ei elfen, yn mynnu, yn hollol benderfynol bod rhaid cael Ymgyrch Ie lwyddiannus a phwerau deddfu llawn i Gymru pan ddaw’r refferendwm yn y gwanwyn. Nid yn unig roedd yn ddi-sgript, roedd yn cerdded hyd y llwyfan a’i freichiau fel melin wynt a’i gorffolaeth nid an-swmpus yn meddiannu’r gwagle. Cafodd gynulleidfa gefnogol barod yn y sesiwn gan ei bod wedi’i threfnu gan Cymru Yfory ym Mhabell y Cymdeithasau ond roedd Carwyn yn amlwg frwdfrydig beth bynnag. Trochodd y dorf yn y rhethreg o blaid pleidlais Ie gan ddefnyddio’i hoff gymhariaeth bod y system ddeddfu bresennol fel rhoi bocs twls llawn i ddau o dri adeiladwr sydd wedi dod i gywiro’ch ty ond rhoi bocs gwag i’r trydydd gan addo’r offer wrth i’r adeiladwr ofyn amdanynt un wrth un. Llwyddodd i ddal ei gynulleidfa, i gynnal eu diddordeb ac roedd yn ddifyr i’w wylio. Rwy wedi bod yn dilyn Carwyn Jones yn annerch ers bron i ddwy flynedd a dyma’r tro cyntaf i fi wir fwynhau gwrando arno. Galla i ddeall nawr pam i’r blaid Lafur weld yn dda i’w ethol fel arweinydd.

Gobeithio nad blip yw hwn ac y cawn ni fwy o areithio ysbrydoledig gan Carwyn Jones. Gobeithio nad yw’r sinigwyr fu’n siarad â fi wedyn yn iawn, ac mai am fod y polisi’n hawdd ei bregethu yr oedd cystal. Amser a ddengys!