Rwy ar faes yr Eisteddfod am yr wythnos felly bydd y blogio’n brin gan fod yr holl rialtwch ar y maes, cynifer o ddarlithoedd difyr i’w mynychu a digonedd o wleidyddion i’w cyfweld. Roedd ddoe’n brysur aruthrol, gan ruthro hyd lle yn hel straeon tranc S4C ymysg pethau eraill. Ac S4C mae’n siwr oedd ysgogiad Plaid Cymru i drefnu araith funud olaf gan Ieuan Wyn Jones ym Mhabell y Cymdeithasau 2 heddiw (dyw e ddim wedi ei amserlennu ar y rhaglen beth bynnag).
Lansio un o brif bolisiau’r blaid at etholiad y Cynulliad wnaeth Ieuan Wyn Jones, gan alw am ddatganoli darlledu i Gymru. Roedd ei ddadl yn glir gan adleisio’n sylwadau’r llafurwr Alun Davies dros yr wythnosau diwethaf bod datganoli darlledu’n ofynnol gyda llywodraeth yn San Steffan sy’n bygwth torri cyllid S4C mor sylweddol a 24% dros bedair blynedd. Sylw arall digon teg gan Ieuan Wyn Jones yw bod nifer y rhaglenni wedi i gwneud yng Nghymru gan y BBC wedi dirywio o 824 awr i 696 awr ac oriau rhaglenni materion cyfoes wedi dirywio o 500 i 420. Ar ITV wedyn mae’r ddarpariaeth wedi diflannu’n llwyr o ran rhaglenni cyffredinol o Gymru a’r ddarpariaeth newyddion yn bitw o gymharu ã’r oes a fu. Mae Ieuan Wyn Jones eisiau i’r Cynulliad gael y pwer dros ddarlledu er mwyn cywiro’r diffygion hyn. Pwyslais ganddo oedd nad yw e eisiau datganoli darlledu er mwyn llywio agenda wleidyddol y darlledwyr. Mae mwy am ei araith yma.
Y cwestiwn dw i am ei holi heddiw yw: pam fod cyn lleied o bobol wedi dod i glywed y Dirprwy Brif Weinidog ac arweinydd ail blaid y Cynulliad, heb sôn am arweinydd y blaid genedlaethol honedig yn siarad? Oni bai am bresenoldeb y wasg yno byddai Pabell y Cymdeithasau 2 wedi bod ddwy draean yn wag a’r mwyafrif o’r lleill yn bobol â chyswllt uniongyrchol â darlledu yng Nghymru.
Ai’r absenoldeb rhestru’r digwyddiad ar y rhaglen oedd yn gyfrifol? Go brin -roedd y digwyddiad dros y newyddion a’r papurau i gyd bore ma. Neu ai diffyg diddordeb ym Mhlaid Cymru gan y rhai sy’n cael eu hystyried yn bleidlais sicr i’r cenedlaetholwyr?
Dim ond gofyn.