Ifan Morgan Jones sy’n dweud y dylai Warren Gatland feddwl cyn agor ei geg…
Warren Gatland yw un o hyfforddwyr gorau Cymru ers blynyddoedd. Mae’n dod â rhyw bersbectif craff a modern i’r gêm.
Mae’n treulio’r gêm yn sbecian dros ysgwydd Robin McBryde ar ei liniadur yn hytrach na’r gwylio beth sy’n digwydd ar y cae – am ei fod yn gweld pethau mewn canrannau, mewn ciciau (lot ohonyn nhw) ac mewn pasiau (dim cymaint bellach).
Ond unwaith y mae’r gêm yn gorffen mae ei gymeriad yn newid yn hollol. Mae ei geg yn agor a phob math o nonsens yn llifo ohoni. Fwy nag unwaith, dw i wedi meddwl, ‘O ca’ dy ben Gatland,’ ac nid yn unig pan ydan ni’n colli gêm.
“Dyw’r Cymry ddim yn hoffi Iwerddon,” meddai cyn gêm ola’r llynedd. “Mae’r Crysau Duon wedi colli eu hawra,” meddai cyn herio Seland Newydd. “Dyw’r Cynghrair Guinness ddim yn dda iawn,” meddai, gan sicrhau fod gan Loegr rywbeth i gwyno amdano hefyd.
“Mae’r Albanwyr yn edrych yn wirion mewn ciltiau,” fydd hi fory, mae’n siŵr.
Rhaid cyfaddef bod cyfnod Alun-Wyn Jones yn y gell gosb wedi chwarae rhan fawr yn y grasfa yn Twickenham. Ond roedd Warren Gatland yn barod i’w feio am bopeth er gwaethaf problemau eraill tîm Cymru. Y gwir yw nad ydi Cymru wedi llwyr argyhoeddi ers maeddu’r Alban dros flwyddyn yn ôl.
Mae’r gair ‘bwch dihangol’ wedi ei ddefnyddio i ddisgrifio Alun Wyn Jones, ond dyw hynny ddim cweit yn wir. Yn y Beibl roedd y bwch dihangol yn cael ei yrru o’r anialwch i farw gan gario pechodau’r bobol arno.
Y gwahaniaeth rhwng y bwch dihangol ac Alun-Wyn Jones yw bod Warren Gatland wedi mynd i’w gasglu o’r difethwch ar ôl sylwi nad oes yna neb arall digon da i chwarae yn ei le.
Dw i’n cofio Martyn Williams yn cael cerdyn melyn am faglu un o chwaraewyr Iwerddon yn y gêm yn Croke Park yn 2008. Wnaethon ni ddim caniatáu i’r tîm arall sgorio 17 pwynt bryd hynny.
A pe baen ni wedi colli y gêm yna, a fyddai Gatland wedi lambastio Williams yn yr un ffordd? Dwi’n amau hynny rywsut, ar ôl gorfod ymbil arno i roi’r gorau i’w ymddeoliad yn y lle cyntaf!