Mae Aelodau Seneddol wedi rhybuddio bod yr ymladd yn Irac ac Afghanistan wedi rhoi pwysau mawr ar luoedd arfog Prydain.

Dywedodd Pwyllgor Amddiffyn Tŷ’r Cyffredin bod angen cyfnod i’r fyddin gael dod ati ei hun ar ôl blynyddoedd o ymladd ar ddau ffrynt.

Yn ôl y pwyllgor, mae angen ychwanegu 10,000 o filwyr newydd i gynyddu’r cyfanswm i 112,000 – mae’r prinder yn golygu fod ymarferion milwrol yn cael eu canslo a’r amser rhwng cyfnodau o ymladd yn mynd yn llai.

I’r eithaf

Mae cyn bennaeth byddin Prydain, y Cadfridog Syr Richard Dannatt, wedi dweud bod y rhyfeloedd yn Irac ac Afghanistan wedi cael effaith a bod yna’r angen i gynyddu maint y fyddin rhwng 10 a 15%.

“Mae’r fyddin wedi bod yn gweithio i’r eithaf. Wrth ystyried tempo uchel ymgyrchoedd milwrol dros yr wyth mlynedd diwethaf, does dim syndod bod swyddogion uwch yn credu bod angen cynyddu maint y fyddin”, meddai adroddiad y pwyllgor.

Maen nhw’n honni hefyd bod peilotiaid y RAF yn methu ag ymarfer oherwydd bod yr awyrennau’n cael eu defnyddio mewn ymgyrchoedd milwrol a bod gan y llynges ormod o ymrwymiadau.

Ar hyn o bryd, meddai’r ASau, mae gan y lluoedd arfog y gallu i gynnal un ymgyrch ganolig ac un ymgyrch ar raddfa fach. Dyw’r sefyllfa bresennol ddim yn gweddu i hynny.

Disgwyl mwy o iawndal

Mae disgwyl y bydd milwyr sy’n cael eu hanafu yn Afghanistan ac Irac yn cael rhagor o arian wrth i newidiadau gael eu cyhoeddi i’r cynllun iawndal milwrol.

Fe gyhoeddodd yr Ysgrifennydd Amddiffyn, Bob Ainsworth ym mis Gorffennaf y llynedd ei fod am brysuro’r gwaith o ailystyried y cynllun.

Roedd hynny ar ôl i’r Llywodraeth gael ei beirniadu am herio taliadau iawndal i filwr a oedd wedi ei anafu’n ddrwg yn Afghanistan.

Fe fydd cyn bennaeth y Lluoedd Arfog, yr Arglwydd Boyce a gynhaliodd yr adolygiad yn cyhoeddi ei gasgliadau heddiw – y disgwyl yw y bydd y rheiny’n cynyddu’r iawndal i filwyr a gafodd eu hanafu ers dechrau’r cynllun ym mis Ebrill 2005.

Llun: Milwyr yn Afghanistan (Gwifren PA)