Hapus eu byd?
Ifan Morgan Jones sy’n holi…

Cyhoeddwyd heddiw bod y BBC ac ITV yn bwriadu cynnig dadleuon a fydd yn cynnwys saith plaid wleidyddol, gan gynnwys Plaid Cymru, yr SNP, y Gwyrddion ac UKIP.

Bydd Channel 4 ac Sky News yn eu tro yn rhoi llwyfan i David Cameron ac Ed Miliband yn unig.

Pwy fydda’n elwa o’r penderfyniad hwn? Plaid Cymru, yr SNP, y Gwyrddion, ac i raddau llai Llafur a’r Ceidwadwyr.

Y Blaid Ryddfrydol fydd y collwyr mwyaf, gydag UKIP yn yr ail safle.

Fe fydd gan Blaid Cymru a’r SNP fantais dros fwyafrif y pleidiau eraill, sef eu bod nhw i raddau helaeth ar yr un tîm.

Yn wahanol i’r pum plaid genedlaethol – Llafur, y Ceidwadwyr, y Democratiaid Rhyddfrydol, UKIP, a’r Gwyrddion – fe fydd modd iddyn nhw gyd-weithio er mwyn tanseilio’r lleill.

Dylai Leanne Wood a Nicola Sturgeon dreulio eu penwythnosau cyn y ddadl yn ymarfer ar y cyd. Pe baen nhw’n ymosod gyda’i gilydd, fe allai eu lleisiau godi uwchben dadleuon unigol y pleidiau eraill.

Bydd y Blaid Ryddfrydol yn rhygnu dannedd ar ôl cael eu darostwng o fod yn un o’r prif bleidiau yn nadleuon 2010, i fod yn un o nifer eleni.

Roedd cael gweld Nigel Farage yn dwyn y sylw i gyd wedi bod yn freuddwyd gan gefnogwyr UKIP, ond fe fydd yn anoddach iddo wneud hynny os yw’n un o saith yn hytrach nag un o bedwar.

Bydd Llafur a’r Ceidwadwyr yn weddol hapus gyda’r drefn newydd, dybiwn i. Fe allen nhw wfftio pwysigrwydd y dadleuon saith-ffordd a rhoi’r pwyslais ar ddadleuon ‘arlywyddol’ Channel 4 a Sky.

Dyw’r DUP ddim yn hapus chwaith. Mae rhai eisoes wedi awgrymu y dylen nhw, plaid fwyaf Gogledd Iwerddon, gael eu cynnwys yn y dadleuon.

Sail y ddadl yw bod ganddyn nhw wyth sedd yn barod, yn fwy na’r SNP, Plaid, UKIP a’r Gwyrddion.

Ond y gwir yw nad yw’r un o’r pleidiau eraill a fydd yn y ddadl yn gystadleuol yng Ngogledd Iwerddon – mae’r Ceidwadwyr yn sefyll yno, ond does ganddyn nhw ddim seddi.

Mae cynnwys Plaid a’r SNP yn deg am eu bod nhw’n cystadlu i ennill seddi yn erbyn y Blaid Lafur, y Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol – pleidiau sy’n achub mantais ar y sylw y maent yn ei gael yn y wasg genedlaethol.