Nid dim ond y gwylwyr sy’n diflannu, ond y staff hefyd! Mae’n amhosibl osgoi heddiw bod Iona Jones wedi ymadael ag S4C. Ond pam yw’r cwestiwn mawr? Oes cywilydd ganddi hi bod pawb bellach yn gwybod bod prif weithredwraig y sianel Gymraeg yn ennill mwy na David Cameron? Yw hi wedi blino ar bawb a phob un yn cwyno am safon rhaglenni S4C, y dull o gomisiynu a’r safon iaith? Neu yw’r ffigyrau gwylio yn ormod o embaras i’r awdurdod ac maen nhw wedi penderfynu mai Iona Jones sydd ar fai?

Gewn ni ddim gwybod gan S4C ei hun, mae’n nhw’n bod yn hynod gryptig. Wele’r datganiad yn llawn ganddyn nhw:

Yn dilyn cyfarfod o Awdurdod S4C mae Iona Jones, Prif Weithredwr y Sianel wedi gadael S4C.

Dymuna Aelodau Awdurdod S4C ddiolch i Iona Jones am ei gwasanaeth i’r Sianel.

Ni fydd unrhyw sylw pellach.”

A yw hi’n ddoeth dweud cyn lleied a gadael i straeon ledu heb i neb fod yn siwr o’u sail? Amser a ddengys. Darllennwch fwy am y cyfan yma ac yma

DIWEDDARIAD: Hyn mewn gan Cheryl Gillan : “I was concerned to hear reports of the departure of the chief executive from S4C. Having spoken to the S4C chairman John Walter Jones, I am reassured I will be kept fully informed on developments. I have also spoken with ministerial colleagues at the Department of Culture, Media and Sport. We remain fully supportive of S4C and the important role it plays within the broadcasting and creative industries in Wales.  I look forward to ongoing discussions with S4C to ensure it continues to deliver quality Welsh language programming.

O bosib wedi bod yn clywed y feirniadaeth gan Lafur bod y Ceidwadwyr a’r glymblaid yn San Steffan yn ddi-glem am Gymru ac y dylen nhw gadw’u bachau oddi ar gyllid S4C?!