Mae noson o adloniant gwahanol iawn wedi’i threfnu ar Faes C ar nos Fercher yr Eisteddfod eleni.
Bydd grŵp Radwm gyda Dewi Pws a Sesh Bach yn cynnal noson sy’n cael ei ddisgrifio fel “Glan Llyn gyda chwrw”.
Delyth Wyn, Helen Blackwell a Joe Carswell yw Radwm ond pan fo Dewi Pws a Ryland Teifi yn rhan o’r rhialtwch maen nhw’n trawsnewid i Sesh Bach.
Maen nhw’n cynnig noson o ddiddanwch i “le bynnag mae pobol yn barod i dalu” meddai Delyth Wyn sy’n addo noson dda gan ychwanegu mai hen air Cymraeg am chaos yw Radwm.
“Traddodiadol gyda slant bach yn hunan arno fe,” yw ei disgrifiad o’r gerddoriaeth.
“Mae pobol wedi disgrifio fe fel funky folk ac fel bach o vaudeville achos pan r’yn ni gyd gyda’n gilydd mae’n sioe. R’yn ni’n joio ac mae lot o brofiad gyda Joe ar lwyfan, mae’n lot o hwyl,” nododd Delyth Wyn.
Darllenwch weddill yr erthygl yng nghylchgrawn Golwg, Gorffennaf 29