Ddoe cyhoeddodd ITV arolwg barn arall, yr ail mewn cyfres o arolygon misol o hyn hyd etholiad y Cynulliad. Gwerth ei nodi yw bod y gefnogaeth i’r refferendwm ar bwerau deddfu’r Cynulliad wedi gostwng o 55% fis diwethaf yn syth wedi’r etholiad cyffredinol i 48% erbyn mis yma. Ym mis Ebrill roedd y gefnogaeth ar 49%. Pwy wyr y rheswm am yr amrywiad -wrth holi 1000 o bobol wahanol bob tro, mae’r ymatebion yn siwr o fod rhywfaint yn wahanol. Fe fydd cefnogwyr mwy o bwerau’n cysuro’u hunain bod y gefnogaeth yn dal i ddawnsio o amgylch y marc 50% ac mae wyth mis tan y refferendwm beth bynnag. Mae mwy ar yr arolwg barn yma.
Yn gysgod o fath dros y refferendwm pwerau mae’r ddadl am amseru’r refferendwm arall, sef y refferendwm ar newid y drefn bleidleisio i’r bleidlais amgen, neu AV. Mae’r Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig yn San Steffan wedi penderfynu bod cynnal y bleidlais honno ar yr un diwrnod ag etholiad y Cynulliad yn bwnc teilwng i ymchwiliad ganddyn nhw ac maen nhw newydd alw am farn pobol ar hynny ac am fwriad llywodraeth y DU i leihau nifer yr aelodau seneddol yn San Steffan a gwneud poblogaeth etholaethau’n fwy cyfartal.