Mae’r heddlu sy’n ymchwilio i dân ar Ffordd Severn, Caerdydd wedi rhyddhau dynes 31 mlwydd oed ar fechnïaeth wrth i’r ymchwiliadau barhau.
Mae’r dyn 36 blwydd oed sydd eisoes wedi ei arestio yn dal ar fechnïaeth.
Daethpwyd o hyd i gorff Yaseen Ali, saith oed, yn ei gartref ar ôl y tân ar Ffordd Severn ddydd Llun, 12 Gorffennaf, 2010.
Fe ddylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu gyda’r Heddlu ar 02920 222111 neu gyda Taclo’r Tacle ar 0800 555111.