Bydd Prifysgol Abertawe yn lansio darlith goffa flynyddol i gofio y diweddar Athro Hywel Teifi Edwards yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.

Ac, yn dilyn y ddarlith bydd ei fab, y darlledwr BBC Huw Edwards, yn lansio Academi Hywel Teifi, sy’n cael ei sefydlu ar gampws y brifysgol.

Mae’r academi yn cael ei disgrifio fel “pwerdy ar gyfer addysgu cyfrwng Cymraeg ac ysgoloriaeth ar y lefel uchaf”.

Mi fydd hefyd yn ôl y Brifysgol yn “ganolbwynt” ar gyfer hyrwyddo’r iaith Gymraeg a diwylliant Cymreig.

Yr hanesydd Cymraeg, Athro Geraint H Jenkins, fydd yn traddodi’r ddarlith goffa ddydd Iau yn y Babell Lên, a bydd yn sôn am hanes Gorsedd y Beirdd.

Bydd ymwelwyr stondin y brifysgol hefyd yn cael eu gwahodd i gyfrannu teyrngedau ac atgofion am Hywel Teifi, a fu farw ym mis Ionawr.

Paul Robeson

Bydd y brifysgol hefyd yn cofio am gysylltiad y canwr Paul Robeson a Chymru, a’i ymweliad ag Eisteddfod Glyn Ebwy ym 1958.

Bydd ei wyres, Susan Robeson, yno ddydd Mawrth i lansio’r arddangosfa ‘Gadewch i Paul Robeson Ganu!’