Ifan Morgan Jones sy’n adolygu Bwystfilod a Bwganod gan Manon Steffan Ros…
Mae Manon Steffan Ros wedi cael dipyn o sylw yn ddiweddar ynglyn â’i nofel cyntaf i oedolion, Fel Aderyn, a enillodd Gwobr Barn y Bobol Golwg 360 yn seremoni Llyfr Y Flwyddyn. Ond mae hi wedi bod yn fwy cynhyrchiol fel awdur i blant, ac wedi rhyddau tair nofel yn barod – Trwy’r Tonnau, Trwy’r Darlun, a nawr Bwystfilod a Bwganod.
Nofel i blant rhwng 9 a 13 oed yw hon, ond, fel y nofelau Harry Potter, mae hefyd yn ddigon diddorol i oedolion gael mwynhau ei ddarllen hi. Mae’n adrodd hanes tri pherson ifanc – Hilda, Tom a Hywel, wrth iddyn nhw fynd ati i frwydro bwystfilod a bwganod ar draws Cymru.
Heb fanylu gormod ar gynnwys y llyfr, mae Hywel yn dod o hyd i hen gyfrol mewn siop llyfrau ail law sy’n dweud wrtho sut i gael gwared ar fwystfilod a bwganod. Un dydd mae miloedd o’r bwystfilod a bwganod yma yn ymddangos ym mhob cwr o’r byd, a daw i’r amlwg mai Hywel yw’r unig un sy’n gwybod sut i’w trechu nhw!
Efallai fy mod i wedi cael mwynhad ychwanegol o’r nofel yma am ei fod wedi ei lleoli yn bennaf yn nhref Llanbedr Pont Steffan, ble mae swyddfa Golwg. Rydw i’n gyrru i mewn i’r dref tua chwech o gloch y bore bob dydd ac roedd gwneud hynny y bore ar ôl gorffen y llyfr yma yn ddigon i godi ofn arna i, beth bynnag.
Er mai nofel i blant mor ifanc a naw oed ydi hwn mae’r bwystfilod a bwganod yn eithaf dychrynllyd, a dweud y gwir. Y golygfeydd yma yw’r gorau yn y nofel ac roeddwn i’n aml yn teimlo fod y cymeriadau mewn perygl go iawn. Dw i ddim yn cofio nofelau mor ddychrynllyd a hyn pan oeddwn i’n naw oed, ond mae poblogrwydd cyfres Harry Potter ac eraill yn profi bod plant heddiw wrth eu boddau gyda’r math yma o beth.
Yr unig wendid yn y nofel efallai ydi’r llyfr sy’n dweud wrth Hywel sut i gael gwared a’r creaduriaid. Efallai y byddai wedi bod yn fwy o hwyl pe bai’r cymeriadau yn gorfod gweithio allan sut i gael gwared o’r bwystfilod eu hunain yn hytrach na dod o hyd i’r ateb mewn llyfr. Byddai hynny wedi rhoi cyfle i Tom a Hilda gael gwared ar ambell fwgan drwy eu dyfeisgarwch eu hunain yn hytrach na dibynnu ar wybodaeth Hywel o hyd.
Ond cwyn digon tila yw hwnnw. Dyma un o’r nofelau gorau i bobol ifanc ydw i’n ei gofio ers Sothach a Sglyfath gan Angharad Tomos, felly os oes gennych chi blentyn 9-13 oed, neu yn dal i deimlo fel un, prynwch hi!