Mae gwyliau’r haf yn ‘rhy hir’, yn ôl arolwg newydd gyhoeddwyd heddiw.

Does dim angen chwech wythnos o wyliau ysgol ar blant a mae eu cael nhw dan draed am bron i ddeufis yn rhoi pwysau mawr ar eu rheini, meddai’r arolwg.

Roedd dros hanner y rhieni a holwyd yn credu y dylai eu plant nhw dreulio mwy o amser yn yr ystafell ddosbarth ac roedd yr un faint yn dweud bod athrawon yn cael gormod o wyliau.

Roedd dros hanner y rhieni yn dweud eu bod nhw’n dechrau “gwallgofi” dim ond 10 diwrnod ar ôl dechrau gwyliau’r haf.

Yn ogystal a hynny roedd mamau yn dweud nad oedden nhw’n gallu ymdopi gyda cael y plant gartref, talu am wyliau, a gweithio yr un pryd.

Yn ôl yr arolwg roedd plant yn tueddu i gael eu symyd yn ôl ymlaen rhwng eu rheini, eu teidiau a neiniau a’u ffrindiau yn ystod gwyliau’r haf.

Roedd 80% o’r bobol a holwyd yn galw am glybiau gwyliau am ddim ar gyfer plant oedd â rheini oedd yn gorfod gweithio drwy’r haf.

Cafodd tua 1,600 o famau eu holi fel rhan o’r arolwg, gynhalwyd gan siop B&Q yr wythnos diwethaf.