Ifan Morgan Jones sy’n edrych ar achos trist llofrudd James Bulger, Jon Venables…
Mae’n anodd iawn cydymdeimlo gyda Jon Venables. Mae o wedi cipio, arteithio a llofruddio plentyn dwy oed, a nawr mae o wedi ei ddal yn lawrlwytho delweddau o blant wyth oed yn cael eu treisio.
Serch hynny dw i ddim yn gallu cytuno a’r cyfryngau tabloid, sy’n benderfynol o’i bortreadu fel hogyn sy’n gyfan gwbl ddrygionus ac wedi bod fel yna ers ei eni. Mae’n amhosib esgusodi beth mae o wedi ei wneud, ac fe ddylai fo fod yn y carchar, er ei les ei hun gymaint â lles pawb arall.
Ond rydw i’n meddwl bod ei bortreadu fel petai o’n ryw gythraul o uffern yn ffordd o osgoi gofyn cwestiynau anodd ynglŷn â’r amgylchiadau sydd wedi ei siapio fo fel person.
Rydw i’n 26 oed erbyn hyn, blwyddyn yn iau na Jon Venables, ac mae’n anodd gen i ddychmygu ei fod o’n teimlo ryw lawer o gysylltiad gyda’r hogyn 10 oed a laddodd James Bulger. Yr unig beth ydw i’n ei gofio am fod yn 10 oed ydi’r castell neidio yn fy mharti pen blwydd – a dw i ddim yn siŵr ai fy mharti pen-blwydd i oedd hwnnw chwaith.
Mae’n rhaid i Jon Venables fyw bob dydd gyda’r euogrwydd ynglŷn â beth wnaeth o i James Bulger, ac fe ddywedodd hynny yn y llys dydd Iau. Roedd o’n beth erchyll i’w wneud, ond dydi plentyn 10 oed ddim yn gwneud rhywbeth mor ofnadwy â hynny heb fethiant sylfaenol yn y ffordd y cafodd ei fagu. Dydi person ddim yn cael smygu a chael rhyw tan eu bod nhw’n 16 oed, am nad ydan ni’n credu eu bod nhw’n ddigon cyfrifol i gymryd penderfyniad fydd gyda nhw am weddill eu bywydau. Ond rydan ni i fod i gredu fod Jon Venables yn gwbl ymwybodol o ganlyniadau beth wnaeth o yn 10 oed. Gyda rhieni gwahanol ac mewn cymdeithas wahanol, efallai mai fo fyddai’n ysgrifennu’r darn barn yma, a fi mewn carchar yn Lerpwl yn rywle.
Y peth rhyfedd yw, pe bai Jon Venables wedi lladd plentyn dwy oed pan oedd o’n 27, yn hytrach nag yn 10 oed, mae’n siŵr na fyddai’r achos wedi cael hanner cymaint o sylw. Wedi’r cwbwl, mae Raoul Moat yn gallu saethu dyn a chael ei drin fel arwr. Mae bron fel petai pobol yn meddwl bod trosedd Jon Venables yn waeth am ei fod o wedi ei gyflawni pan oedd o’n blentyn.
Mae Jon Venables hefyd yn gorfod byw gyda chanlyniadau beth wnaeth o – nid yn unig ei gyfnod yn y carchar, ond y ffaith bod cyfran sylweddol o’r boblogaeth eisiau ei ladd o. Dywedodd yn y llys ei fod o’n teimlo fel caneri mewn pwll glo ers cael ei ryddhau, ac y byddai’n falch o gael mynd yn ôl i’r carchar.
Mae hynny’n awgrymu meddylfryd hollol paranoid ac yn ôl yr heddlu roedd o wedi mynd yn fwy a mwy mewnblyg dros amser. Mae’r gyfraith yn dweud fod rhai iddo roi gwybod i unrhyw un ynglŷn â’i hunaniaeth go iawn cyn mynd i berthynas gyda nhw. Does dim esgus ynglyn a’r pornograffi plant, beth bynnag ei amgylchiadau. Ond dyw’r gyfraith yn amlwg ddim wedi ei helpu i ffurfio perthynas gydag unrhyw un o gig a gwaed.
Efallai fod yna ddarn ohono hyd yn oed oedd eisiau cael ei ddal? Mae’n debyg ei fod o wedi datgelu ei enw go iawn ar ôl cael ei roi yn ôl yn y carchar. Mae’n siŵr bod yna ran ohono sydd wedi blino ar y cyfrinachedd ac eisiau datgelu popeth, hyd yn oed os ydy o’n cael ei rwygo’n ddarnau.
Mae yna gwestiynau mawr angen eu gofyn hefyd ynglŷn â gwaith yr heddlu wrth greu hunaniaeth newydd ar gyfer Venables. Ar ôl gwario £250,000 ar greu dyn newydd fe wnaethon nhw ei symud – i Gaer? Ugain milltir gyfan o Lerpwl? Anhygoel.