Dyw’r newyddion yn y Guardian heddiw ddim yn dda i S4C os yw’n wir. Bydd colli bron i chwarter ei gyllid yn ergyd drom i’r darlledwr. Fel cyd-ddigwyddiad wrth i’r cyfryngau godi’r stori a’i thrafod ar yr awyr ro’n i ar set drama newydd fydd ar S4C yn y Gwanwyn. Ai drama a’r holl gost cysylltiedig fydd y peth cyntaf i fynd gyda chyllideb brin? Nid dyna mae Eleanor Burnham yn gobeithio, mae hi am i’r awdurdod dalu llai i reolwyr er mwyn cadw safon y rhaglenni. Wrth gwrs, byddai rhai’n dadlau bod angen gwella’r safon beth bynnag. Mae ymateb i’r stori yma ac yma
Gyda llaw, rwy’n ddiolchgar iawn am yr ymatebion i’r blogiadau. Unwaith fydda i’n deall sut mae ymateb, fe wnaf!