Alun Ffred Jones
Mae Gweinidog Treftadaeth Llywodraeth y Cynulliad, Alun Ffred Jones wedi dweud y byddai’n poeni pe bai cyllideb S4C yn cael ei thorri ymhellach.
Ers yr Etholiad Cyffredinol ym mis Mai, fe ddaeth cyhoeddiad y byddai’r gyllideb yn cael ei thorri o 2%, neu o £2m. Ond mae adroddiad ym mhapur newydd y Guardian heddiw yn awgrymu y gallai’r sianel Gymraeg wynebu toriadau o 6% bob blwyddyn rhwng 2011 a 2014.
“Dw i wedi gofyn am sicrwydd na fydd y toriadau yn disgyn o dan y swm gafodd ei gyfrifo yn Neddf Darlledu 1990, a dw i wedi gofyn am gyfarfod ynglŷn â hynny,” meddai Alun Ffred Jones.
“Mae Llywodraeth y Cynulliad yn credu ei bod hi’n bwysig bod cynulleidfaoedd yn cael gwasanaethau wedi’u cyflwyno i safon uchel yn yr iaith o’u dewis.
“Mewn bron i 30 mlynedd o weithredu, mae S4C wedi chwarae rôl allweddol yn hyrwyddo a gwarchodi’r iaith Gymraeg trwy ddod ag ef mewn i gartrefi pobol ar draws Cymru bob dydd.
“Mae’r model yma wedi cael ei ddilyn yn yr Alban ac Iwerddon fel ffordd o hyrwyddo’u ieithoedd eu hunain.”
Cymdeithas yn condemio
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi condemnio’r toriadau arfaethedig.
“Cafwyd addewid gan y Torïaid cyn yr etholiad cyffredinol y byddai gwariant ar S4C yn cael ei warchod. Rydan ni, felly, yn hynod bryderus am y sïon hyn, a byddwn yn eu gwrthwynebu’n llwyr pe cânt eu gwireddu,” meddai llefarydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar ddarlledu, Rhodri ap Dyfrig.
“Mae’r ddarpariaeth cyfryngau Cymraeg yn edwino ar draws pob cyfrwng o deledu i radio, heb sôn am y diffyg enbyd yn y cyfryngau gwe Cymraeg, felly mae angen i ni warchod yr hyn sydd gennym ni.
“Mae ein sefyllfa yn unigryw, ac er bod rhaid i S4C ail-edrych ar ei strategaeth a’i gweinyddiaeth yn yr un modd â phawb arall, mae angen gwarchod y gyllideb rhag niweidio allbwn y Sianel a difrodi iaith ac economi Cymru.
“Mae’r hinsawdd o ran yr economi ddarlledu yng Nghymru’n fregus eisoes, ac mae’r toriadau yn mynd i gael effaith andwyol ar gwmnïau a chymunedau yn y wlad.”