Helen Mary Jones
Mae un o wleidyddion Plaid Cymru wedi dweud y byddai toriadau posib o 24% i gyllideb S4C yn peryglu rhaglenni Cymraeg a diwydiant darlledu Cymru.
Dwedodd Helen Mary Jones y byddai’r bobol yn iawn i deimlo eu bod nhw wedi’u camarwain yn dilyn sicrhad gan y Ceidwadwyr yn ystod ymgyrch yr Etholiad Cyffredinol y byddai S4C yn ddiogel o dan y Torïaid.
“Os yw’r adroddiadau hyn yn wir, mi fydd yn ergyd nid yn unig i’r iaith Gymraeg a’r rheini ohonom ni sy’n gwylio rhaglenni S4C, ond fe allai danseilio’r diwydiant darlledu yng Nghymru yn ddirfawr,” meddai Helen Mary Jones.
“Mae S4C yn chwaraewr pwysig wrth gomisiynu rhaglenni drwy Gymru ac fe allai’r cyhoeddiad fel hyn olygu anawsterau pellach i gwmnïau sy’n cystadlu yn y farchnad honno.
“Os yw’r adroddiadau hyn yn wir, mae’n awgrymu bod gan y Ceidwadwyr gwestiynau difrifol iawn i’w hateb.
“Yn ystod ymgyrch yr etholiad Cyffredinol, fe addawodd ffigyrau Ceidwadol amlwg yng Nghymru y byddai S4C yn ddiogel o dan lywodraeth Dorïaidd.
“Mae’n ymddangos nawr nad oedd y datganiadau hynny yn wir.”
Rheoli cyflogau staff rheoli
Mae Aelod Cynulliad y Democratiaid Rhyddfrydol tros Ogledd Cymru, Eleanor Burnham, wedi dweud pe bai toriadau yn cael ei wneud i gyllideb S4C, dylai’r sianel ganolbwyntio’r toriadau i gyflogau’r rheolwyr.
“Pe bai toriadau yn cael eu gwneud, fe ddylai S4C sicrhau nad yw safon ac ansawdd rhaglenni’r iaith Gymraeg yn cael eu heffeithio,” meddai Eleanor Burnham.
“Mae angen i S4C wneud y toriadau tu ôl i’r llenni er mwyn cyfyngu ar y toriadau mae’r gwylwyr yn ei weld ar y sianel.
“Mae angen iddyn nhw wneud toriadau i gyflogau rheolwyr, gan fod rhai o’r cyflogau allan o gyswllt gyda’r byd go iawn.”
Ymateb S4C
“Nid yw S4C yn ymwybodol o unrhyw gynlluniau penodol yn ymwneud â’i chymorth grant ar hyn o bryd,” meddai cadeirydd Awdurdod S4C, John Walter Jones.
“Yn yr un modd â chyrff eraill a ariannir yn gyhoeddus, rydym yn gwybod beth yw’r targedau cyffredinol o dan ystyriaeth gan y Llywodraeth, ond nid yw’r Adran Diwylliant Cyfryngau a Chwaraeon wedi datgelu beth yw ei bwriad o safbwynt ariannu S4C yn y dyfodol.
“Yn y cyfamser mae S4C wedi rhoi ar waith newidiadau arwyddocaol dros 18 mis diwethaf er mwyn sicrhau bod y sianel yn gweithredu’n effeithlon yng nghyd-destun yr hinsawdd economaidd heriol”
“Mae Awdurdod S4C wedi gofyn i’r Prif Weithredwr a’i thîm rheoli asesu goblygiadau unrhyw doriadau i’r cyllid gan y Llywodraeth, gan gynnwys yr effaith ar wasanaethau cyhoeddus y sianel ac unrhyw newidiadau posibl a allai effeithio ar gynnwys ac ar ddarparwyr gwasanaeth yn y sector annibynnol,” ychwanegodd John Walter Jones.