Mae adroddiad yn y wasg Saesneg yn awgrymu y bydd S4C yn derbyn 24% yn llai o grant o Lundain o’r flwyddyn nesa’ ymlaen.
Yn ôl stori ym mhapur newydd y Guardian heddiw, fe fydd adolygiad o wariant cyhoeddus Llywodraeth San Steffan ym mis Hydref eleni yn cadarnhau y bydd y Sianel yn derbyn 24% yn llai o arian gan yr adran Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon.
Fe fydd y 24% o ostyniad yn y grant, yn ôl y Guardian, yn digwydd dros bedair blynedd, gyda thoriad o 6% yn digwydd bob blwyddyn rhwng 2011 a 2014.
Mae S4C yn gwybod ers mis Mai y bydd yn wynebu toriad o £2m, o leia’, y flwyddyn nesa’.
Mae wedi derbyn dros £101m o grant ar gyfer 2010, yn ogystal â rhaglenni ‘am ddim’ gan BBC Cymru sy’n werth tua £25m. Mae’n cynhyrchu incwm hysbysebu o tua £3m y flwyddyn.
Fe fydd union lefel y grant y bydd S4C yn ei dderbyn yn 2011 yn cael ei gyhoeddi’n swyddogol ym mis Tachwedd eleni.