Hir yw pob aros. Ond does dim syndod bod adroddiad pwyllgor deddfu 2 ar y mesur iaith wedi cymeryd cyhyd. Mae e’n anferth, yn fwystfil o beth fel y mae’r mesur yn fwysfil o beth. Mae’r crynodeb ymhell o fod yn gryno, a manylder yr argymhellion yn dangos ôl gwaith. Fe fydd Cymdeithas yr Iaith yn dawnsio mewn llawenydd o weld bod y pwyllgor yn credu bod angen rhoi statws di-amwys i’r Gymraeg a’r Saesneg a bydd y Gweinidog Treftadaeth yn gwneud yr un peth o weld nad yw’r syniad o safonau wedi cael ei ddamsgel arno’n llwyr (ymddengys eu bod yma i aros). Ond megis dechrau yw sôn am rheiny. Mae argymhellion rif y gwlith yn yr adroddiad cynhwysfawr.
Mae Meirion Prys Jones o Fwrdd yr Iaith yn dweud y dylai deddfwriaeth iaith fod yn syml. Roedd y mesur drafft yn gymhleth ymhell cyn i’r pwyllgor deddfu adrodd nôl ac maen nhw am weld newidiadau mawr. Gyda chymaint o newididadau arfaethedig, a fyddai hi’n syniad i’r Llywodraeth fynd nôl a dechrau eto? Mae newid rhywbeth cymhleth yn cymhlethu mwy, does bosib? Wrth fynd nôl trwy’r mesur gyda’r holl newidiadau, yn derbyn rhai a gwrthod eraill onid yw’r tebygrwydd o wneud camgymeriadau neu golli newidiadau hanfodol yn cynyddu? Mae’r pwyllgor yn gresynu na fyddai’r Llywodraeth wedi rhyddhau mesur ymgynghorol cyn gosod mesur drafft yn ei le, sy’n arwyddocaol ddywedwn i. Wrth ymgynghori ag arbenigwyr mewn cyfraith ieithyddol, efallai y byddai’r mesur wedi bod yn symlach yn hytrach na beth sy’n ymddangos fel cyfaddawd gwleidyddol, cymhleth.
Fe gawn ni ymateb moel gan y Llywodraeth cyn bo hir nawr, ond bydd rhaid aros tan 21 Medi am y ddadl ar y mesur yn y siambr.
Mae ymateb Cymdeithas yr Iaith i’r adroddiad yma. Plaid Cymru hyd yn hyn yw’r unig blaid sydd wedi ymateb i’r adroddiad, gweler yma.