Mae cadeirydd Plaid Cymru, John Dixon wedi cyhoeddi ei fod yn rhoi’r gorau i fod yn Gadeirydd Plaid Cymru ar ôl 8 mlynedd yn y swydd, heddiw.
Mae’r blaid wedi dweud y byddant yn derbyn enwebiadau i’w olynu yn syth, ac y bydd y broses yn parhau nes 30 Medi.
Y dirprwy Gadeirydd, Ellen ap Gwynn, sef arweinydd grŵp Plaid Cymru ar Gyngor Ceredigion, fydd yn cymryd yr awenau tan hynny.
Dywedodd John Dixon y byddai’n gadael yn dilyn ei benderfyniad i beidio ag ymgeisio ar gyfer sedd Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro yn etholiadau’r Cynulliad.
Mae darpar Lywydd Plaid Cymru, Jill Evans ASE, wedi dweud fod cyfraniad John Dixon wedi bod yn “aruthrol” ac yn “rhan allweddol o lwyddiannau diweddar y blaid”.
“Mae wedi helpu i’n trawsnewid ni’n blaid broffesiynol a chyfoes,” meddai.
“Mae John yn uchel iawn ei barch ymysg holl aelodau’r blaid, a bydd yn anodd iawn ei ddilyn.
“Ar ran y blaid, hoffwn ddiolch iddo am ei holl waith caled yn ystod ei gyfnod fel cadeirydd.”