Cliciwch fan hyn am gipolwg ar yr app newydd ‘iSteddfod’, sydd wedi ei greu’n arbennig ar gyfer defnyddwyr yr iPhone neu’r iPod touch yn Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Gwent eleni. Mae gan Golwg 360 ‘stondin’ ar yr app fydd yn dangos y newyddion diweddaraf o’n gwefan ni a hefyd y newyddion diweddaraf o’r maes. Mae’r app hefyd yn cynnwys gwybodaeth defnyddiol fel map o faes y Steddfod a rhaglen y dydd. Bydd yr Eisteddfod yn dechrau mewn ychydig dros wythnos, ar 31 Gorffennaf, felly os ydych chi eisiau’r app i’ch tywys chi o boptu’r pafiliwn pinc brysiwch draw i’r wefan swyddogol.
Dyma ambell i fideo bach arall yn dangos sut y mae’r ap yn gweithio: Rhaglen y dydd a ‘stondin’ Cymdeithas yr Iaith.
Beth ydach chi’n ei feddwl? A fydd o mor ddefnyddiol a par o wellington boots ar y maes? A fydd yr eisteddfod yn cael ei gynnal drwy gyfrwng twitter mewn ychydig flynyddoedd, gyda’r fedal ryddiaith wedi ei gyfyngu i 140 llythyren?