Mae Man Utd a’r Cardiff Devils yn wynebu protest gan Fwslimaidd oherwydd yr arwyddlun diafol ar eu bathodynnau.

Mae arweinyddion Mwslimaidd ym Malaysia eisoes wedi gwahardd dilynwyr y crefydd yn y wlad rhag gwisgo crysau Man Utd oherwydd y diafol bach coch ar fathodyn y crysau.

Mae Cyngor Crefyddol Johor a’r Mufti o Perak yn dweud bod delweddau o groesau, brandiau gwirod a’r diafol yn sarhad i Allah.

“Does dim esgus i Fwslemiaid wisgo dillad yma. Mae’n golygu eich bod chi’n addoli crefydd arall,” meddai Datuk Nooh Gadot, y Mufti o Johor.

Ond dyw perchennog y Cardiff Devils ddim yn credu bod yna unrhyw beth o’i le gyda chynnwys y diafol ar eu bathodyn.

“Mae gennym ni ddiafol blaenllaw ar ein logo, ond dyw hynny ddim yn sarhad crefyddol,” meddai Paul Ragan.

“Does neb erioed wedi cwyno am enw na bathodyn y clwb o’r blaen.”

Mae 2.5m o Fwslemiaid yn byw ym Mhrydain, gyda 4% o boblogaeth Caerdydd yn Fwslemiaid.