Dylan Iorwerth a’r her i arweinydd newydd…

Roedd y bwcis yn iawn. A does gan Carwyn Jones ddim esgus.

Efo mwyafrif y pleidleisiau ar y cyfri’ cynta’, mae’r Blaid Lafur fwy neu lai wedi dweud wrtho, rhwydd hynt i’n harwain ni.

Ond mae hynny’n golygu cyfrifoldeb hefyd. Mae’n golygu bod disgwyl i AC Pen-y-bont ei harwain i rywle pendant.

Doedd neb wedi disgwyl buddugoliaeth lawn mor hawdd ond y neges o’r hystingau oedd mai Carwyn Jones oedd yn cyfleu’r gravitas sydd ei angen ar gyfer swydd o’r fath.

Fe fu’n glyfar hefyd – gyda chymorth ei lieutenant, Leighton Andrews – i bellhau ei hun oddi wrth Blaid Cymru a’r cyhuddiad ei fod yn gyd-deithiwr cenedlaetholaidd.

Yn sicr, ef a roddodd yr argraff o gynnwys Cymru gyfan ac mae’n ddewis doeth i blaid sydd heb fod mewn cyflwr digon cry’ i bigo ffeit â neb.

Ond mae’n bosib y bydd rhaid iddo bigo ffeit o fewn ei blaid ei hun. Ar hyn o bryd, mae’r berthynas yn anesmwyth rhwng y Bae a San Steffan ac ymgais Peter Hain i arafu’r refferendwm yn arwydd o hynny.

Beth bynnag yw barn Carwyn Jones am ddyddiad y bleidlais, mae’r gefnogaeth iddo’n arwydd cry’ y gall fentro cryfhau llaw aelodau’r Cynulliad yn erbyn yr Aelodau Seneddol. Er ei lles ei hun, mae angen iddi sortio hynny.

Mi ddaw dan bwysau hefyd o gyfeiriad Plaid Cymru, ei bartneriaid yn y glymblaid. Fe fydd hi’n amhosib iddo blesio pawb.

Cymrodeddwr yw Carwyn Jones wrth reddf ac mae hynny wedi dangos yn ei fwyafrif. Does ond gobeithio nad yw wedi addo gormod i ormod o bobol wrth ennill y mwyafrif hwnnw.