Bydd cwest heddiw i farwolaeth tad a’i ferch ifanc fu farw ar ôl disgyn 50 troedfedd oddi ar raeadr i mewn i afon yng Ngogledd Cymru.
Fe fu farw James Scott Gallacher, 35 oed, a’i ferch tair oed, o Fanceinion, oedd ar eu gwyliau yn Llanbedr, ger Harlech, ym mis Gorffennaf.
Disgynnodd y golchwr ffenestri a’i ferch mewn i bwll o ddŵr rhewllyd 16 troedfedd o ddyfnder yng Nghwm Nantcol.
Cafodd y ddau, oedd yn rhan o grŵp o ddau o blant a phedwar o oedolion, eu darganfod yn farw tuag awr ar ôl disgyn.
Roedd deifwyr o’r gwasanaethau brys a hofrennydd yr heddlu wedi bod yn chwilio am y ddau.
Bydd y cwest o flaen y Crwner Dewi Prichard Jones yn Nolgellau heddiw.