Jôc Daniel Glyn yw “Pam fod S4C wedi dechrau enwi ei rhaglenni ar ôl nifer y gwylwyr -Dim ond 1? Heb sôn am Lle aeth Pawb?!”
Ond yn wir, lle aeth pawb? Mae darn gan Barry Thomas yn Golwg yr wythnos hon am y cwymp yn nifer gwylwyr y sianel Gymraeg. Mae’n arswydus meddwl mai dim ond 549,000 o bobol fu’n gwylio S4/C am dair munud ar gyfartaledd bob wythnos yn 2009. Yn 2004, roedd y ffigwr bron ddwbl hynny ar 1,040,000.
Mae digonedd o bobol sy’n cwyno mai’r cynnwys sy’n gyfrifol am y cwymp, yr obsesiwn gyda chwaraeon ar draul popeth arall ac wrth gwrs y penderfyniad i gomisiynu rhaglenni dim ond trwy gnewyllyn o gwmniau cynhyrchu mawr. A thra mod i’n galaru colled comedi da ar S4C (Ble mae’r Pelydr X yr unfed ganrif ar hugain? Ble mae’r comedi teuluol a la Hapus Dyrfa a Y Ferch Drws Nesa fy mhlentyndod, heb sôn am yr athrylithgar o ddoniol Pobol y Chyff? Pam o pam nad yw pethau cyffelyb ar ein sgrîn fach bellach?) mae gen i theori fach fy hunan am dranc gwylwyr S4C.
Mae gen i deledu cêbl, ac mae S4/C fyny fry ar sianel 167. Pan does dim byd ar y teledu, fe fydda i’n fflicio fyny o 1 i 2 i 3 hyd nes o’r diwedd y bydda i’n dod o hyd i rywbeth “gwerth” gwylio (Weithiau, dylen i jest ddarllen llyfr). Ymhen hir a hwyr fe fydda i’n cyrraedd sianel yn yr 140au-150au a bydd rhyw rwtsh americanaidd/awstralaidd yn lleddfu’r diflastod nes bod ei bod hi’n amser am y rhaglen rwy’n disgwyl amdani gael ei darlledu. Dydw i braidd byth yn cyrraedd sianel 167. Ac mae hyn yn drist. Wn i ddim sawl gwaith rwy wedi colli ail-ddarllediad o Jabas, rhaglen hoff o’r 1980au, neu Rownd a Rownd am nad oeddwn i wedi fflicio i fyny i 167 mewn da bryd. Yn y dewis rhwng Rownd a Rownd a Home and Away, Rownd a Rownd fyddai’n ennill bob tro, heblaw bod Home and Away ar 152 am 6.30!
Dwn i ddim os oes modd i S4C brynu safle 4, neu efallai gael slot BBC3 neu BBC4 ar deledu cêbl ond rwy’n ffyddiog y byddai’r ffigyrau gwylio’n gwella pe bai’r sianel yn agosach at 101 a’r holl hen sianeli oedd ar analog gynt. Yn 2004, doedd gen i ddim cêbl, ac ro’n i’n gwylio llawer mwy o S4/C. Fysen i ddim yn amau bod nifer o bobol eraill yn yr un cwch.