Mae Myfanwy Davies yn cynnig ei henw i sefyll dros Blaid Cymru ar restr Gorllewin De Cymru. Hi yw’r doethur safodd yn aflwyddiannus yn erbyn yr AS Nia Griffith yn Llanelli yn yr etholiad cyffredinol. Mae ei rhesymau dros sefyll fan hyn

Pam bod hyn yn ddiddorol? Wel, dyma’r sedd ranbarthol lle cafodd Bethan Jenkins esgyn i frig y rhestr ar waethaf y ffaith iddi gael llai o bleidleisiau na Dr Dai Lloyd am ei bod hi’n fenyw. O ganlyniad fe’i hetholwyd yr AC ieuengaf erioed. Erbyn hyn mae Plaid Cymru wedi newid y rheol merched-yn-gyntaf ac wedi cyflwyno polisi o “zipio” hynny yw, pwy bynnag sy’n cael y nifer fwyaf o bleidleisiau sy’n cael y lle cyntaf ar frig y rhestr ranbarthol boed yn ddyn neu’n fenyw a pherson o’r rhyw arall sy’n gorfod cael yr ail safle ar y rhestr.

Pwy a wyr, efallai bod Bethan yn bwriadu cynnig ei henw fel ymgeisydd i sedd etholaethol Castell Nedd at y Cynulliad nesaf, felly mae’r drafodaeth yn ddi-bwynt. Wedi dweud hynny go brin bod Alun Llywelyn yn mynd i beidio â chynnig ei enw am y sedd eto. Wedi ei ddewis droeon i fod yn ymgeisydd Plaid Cymru dros yr etholaeth, mae’n debygol y caiff ei ddewis eto. Mae gobeithion Myfanwy a Bethan yn dibynnu ar boblogrwydd y ddwy gyda’r blaid yn lleol, rhywbeth nad oes gen i unrhyw wybodaeth arbennig amdano. Os yw Myfanwy yn ennill mwy o bleidleisiau na Bethan, fe fydd Bethan yn drydydd ar y rhestr a’i gobeithion o gael ei hail-ethol y nesaf peth at ddim. Mae’r un peth yn wir am Myfanwy wrth gwrs, os yw Bethan yn gwneud yn well na hi.

Mae’r pleidiau i gyd wrthi’n dewis ymgeiswyr ar hyn o bryd. Gyda nifer o ACau’n ymddeol eleni, mae’n mynd i fod yn ddifyr rhagweld pwy fydd yn cymeryd eu lle a sut olwg fydd ar y Cynulliad wedi Mai 2011.

CYWIRIAD: Mae’n debyg bod Bethan yn sefyll ar y rhestr. Dylen i ddarllen ei blog hi’n amlach. Ymddiheuriadau Bethan.