Mae Cymro oedd yn arfer pwyso 24 stôn wedi ennill gwobr Slimming World y Flwyddyn heddiw ar ôl colli hanner ei bwysau.

Roedd Stuart Howells, 43, o Lanelli wedi rhoi’r gorau i’w waith fel gweithiwr cynorthwyol i deuluoedd ac yn isel iawn ei ysbryd.

Ond, ers ymuno gyda grwp Slimming World ym mis Ionawr 2008, mae’r tad i bedwar o blant wedi colli 12 stôn ac wedi mynd yn ôl i’w waith.

Ar ôl ymuno â’r grŵp colli pwysau yn Llanelli, fe newidiodd ei ffordd o fyw a rhoi’r gorau i fwyta bwyd llawn braster. Bellach, mae’n rhedeg chwe milltir bob bore, yn beicio 25 milltir yn gyson ac yn nofio yn aml hefyd.