O heddiw ymlaen mae’r Gymraeg yn cael ei chydnabod fel un o ieithoedd statudol y Sefydliad Ewropeaidd ym Mrwsel.

Yn dilyn ceisiadau gan y Cynulliad Cenedlaethol, Llywodraeth y DU a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, cafodd cytundeb ei lofnodi â Phwyllgor Economaidd a Chymdeithasol Ewrop sydd bellach yn darparu cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg yn ei gyfarfodydd llawn.

Er nad yw’r Gymraeg yn cael ei chydnabod fel iaith wladwriaeth lawn, mae’n awr wedi’i chategoreiddio fel iaith genedlaethol-ranbarthol sy’n golygu y bydd hawl i’w defnyddio yn nghyfarfodydd llawn Pwyllgor Economaidd a Chymdeithasol Ewrop o heddiw ymlaen.

Siarad Cymraeg am y tro cyntaf

Tom Jones, Is-lywydd Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru ac aelod o Bwyllgor Economaidd a Chymdeithasol Ewrop fydd yn siarad Cymraeg yn y cyfarfod am y tro cyntaf.

“Dw i’n falch ac yn ddiolchgar am y penderfyniad,” meddai Tom Jones gan ddweud fod Pwyllgor Economaidd a Chymdeithasol Ewrop yn Sefydliad Ewropeaidd pwysig.

“Bydd clywed y Gymraeg yn cael ei siarad yn rheolaidd yn hwb i statws yr iaith. Dylai annog mudiadau Cymreig i fod yn hyderus wrth gyfrannu at y broses benderfynu Ewropeaidd sy’n effeithio arnyn nhw.

“Bydd y penderfyniad hwn yn help i godi proffil Cymru ymhlith ei chymheiriaid Ewropeaidd ac yn ei gwneud yn fwy amlwg,” meddai.