Mae’r gwrthbleidiau yng Nghymru wedi ymateb yn ffyrnig i’r cyhoeddiad fod y wlad yn gwario llai na Lloegr ar iechyd – a hynny ers chwe blynedd.
Yn ôl y Democratiaid Rhyddfrydol mae hyn yn “frawychus” ac mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn dweud fod hyn yn chwalu’r honiad fod iechyd yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru.
Daw hyn wedi i Lywodraeth Cymru gadarnhau fod Gwasanaeth Iechyd Cymru’n cael ei thanariannu o drydydd o’i gymharu â gwasanaeth iechyd Lloegr.
“Mae hyn yn dangos am y tro cyntaf bod y momentwm i gynyddu’r arian sy’n mynd i’r gwasanaeth iechyd wedi arafu yn sylweddol o’i gymharu â Lloegr, “ meddai Veronica German, Gweinidog Iechyd y Democratiaid Rhyddfrydol.
“Os mai dyma’r achos dros y 6 blynedd diwethaf, bydd pryder mawr am ddyfodol ariannol y gwasanaeth iechyd wrth i wariant cyhoeddus dynhau,” meddai.
Methu rheoli gwario ar iechyd
Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi dweud heddiw bod rhaid i Lywodraeth Cynulliad Cymru ailfeddwl am eu blaenoriaethau ynglŷn a gwasanaethau iechyd Cymru.
“Yn anffodus, dyw Llywodraeth y Cynulliad ddim yn gallu rheoli gwariant y Gwasanaeth Iechyd yn ddigonol ac mae hyn wedi creu rhestrau aros truenus, amseroedd ymateb ambiwlans gwael a gweithlu sy’n methu symud ymlaen gyda’u gyrfa.”
Gofal cleifion wedi gwella
Ond dywed y llywodraeth fod iechyd yn parhau i fod yn flaenoriaeth er fod cyfanswm yr arian sydd ar gael yn cael effaith ar benderfyniadau buddsoddi.
Dywedodd llefarydd fod 40 y cant o’r gyllideb yn cael ei gwario ar wasanaethau iechyd a chymdeithasol.
“Mae hyn wedi cynyddu’n sylweddol ers 1999 ac erbyn hyn yn sefyll ar £6.3billion. Yn sgil hyn, mae gofal cleifion wedi gwella.”