Mae Castell-nedd wedi cadarnhau bod cyn ymosodwr Abertawe, Lee Trundle wedi arwyddo gyda’r clwb am y tymor newydd.
Fe wrthododd Trundle gynigion gan glybiau yng Nghynghrair Pêl Droed Lloegr i chwarae yn Uwch Gynghrair Cymru.
Mae’r cyn ymosodwr Wrecsam a Dinas Bryste yn ymuno gyda’i gyd-chwaraewr yn Abertawe, Kristian O’Leary a oedd eisoes wedi arwyddo gyda Chastell-nedd.
Mae Lee Trundle eisoes wedi chwarae yn Uwch Gynghrair Cymru gyda’r Rhyl yn ystod tymor 2000/01 gan sgorio 15 gôl mewn 18 gêm.
“Mae’n wych eu bod nhw wedi arwyddo ac mae’n arwyddocaol o’r cyfeiriad mae’r clwb am gymryd,” meddai Castell-nedd mewn datganiad.
Bydd Trundle ac O’Leary yn cael eu cynnwys yng ngharfan Castell-nedd i wynebu Abertawe mewn gêm gyfeillgar nos yfory.