Mae ‘na adroddiadau bod rheolwr Hamilton, Billy Reid yn cynnal trafodaethau gydag Abertawe ar ôl iddo newid ei feddwl am y swydd.
Fe ddaw’r tro pedol ddiwrnod ar ôl i’r Albanwr ddweud ei fod yn awyddus i aros gyda chlwb Uwch Gynghrair yr Alban.
Fe ddywedodd Billy Reid bod ei berthynas dda gyda chadeirydd y clwb a’r chwaraewyr yn allweddol i’w benderfyniad i aros.
Ond mae’n debyg bod rheolwr Hamilton wedi newid ei feddwl a’i fod o leia’ am siarad gyda’r Elyrch.
Ddoe, fe ddywedodd cadeirydd Abertawe, Huw Jenkins, nad oedd y clwb am ruthro i benodi rheolwr newydd.