Eleni bydd cwrw newydd sbon yn cael ei greu i hyrwyddo Gŵyl Werin Tegeingl yn Sir y Fflint.

Mae’r ŵyl yn cael ei chynnal eleni am y drydedd flwyddyn yn olynol ac yn gymysgedd o gerddoriaeth, dawns a barddoniaeth, gan geisio dod â diwylliant gwahanol wledydd i Gymru, yn ogystal â rhannu diwylliant Sir y Fflint a Chymru gyda gweddill y byd.

Bragdy Facer fydd yn cynhyrchu’r cwrw arbennig, a fydd ar gael o glwb rygbi’r Wyddgrug yn ystod yr ŵyl a gynhelir ar 20-22 Awst.

Dywed Dave Facer o’r bragdy ei fod yn falch iawn o gael cynhyrchu cwrw arbennig ar gyfer gŵyl arbennig.

Mae cadeirydd yr ŵyl, Bryn Davies, hefyd yn falch iawn o’r datblygiad yma, gan ddweud y bydd “y cwrw Tegeingl arbennig yma yn dod ag elfen ychwanegol i benwythnos bendigedig.”

Mae Rhian Davies, un o’r trefnwyr, hefyd yn edrych ymlaen yn fawr at gael cwrw newydd sbon, er nad ydy hi wedi ei flasu eto!

Dywedodd wrth Golwg360, “Mae’n beth cyffrous iawn cael ein cwrw ein hunain. Rydym yn falch iawn bod cwmnïau lleol wedi mynd i ysbryd yr ŵyl, ac rydym ni yn falch iawn o allu eu cefnogi hwythau hefyd.”

“Mae lleoliad Tegeingl/Sir y Fflint yma ar y ffin yn golygu bod cymysgedd cyfoethog ac unigryw o hanes, treftadaeth a chelfyddyd wedi parhau yma, a bydd cwrw arbennig Facer’s yn adlewyrchu hyn,” ychwanegodd Bryn Davies.

Cynhelir yr ŵyl rhwng 20-22 Awst ar faes Clwb Rygbi’r Wyddgrug a ceir mwy o wybodaeth ar wefan Gŵyl Tegeingl – www.tegeingl.com

Ymysg y perfformwyr eleni mae cerddorfa werin Y Glerorfa, Keith Donnelly, Kerfuffle a Gwibdaith Hen Frân.

Gwreiddiau yn Eisteddfod yr Wyddgrug

Dechreuodd yr ŵyl wrth i grŵp o gerddorion a dawnswyr gyfarfod dros ddiod i drafod Eisteddfod Genedlaethol yr Wyddgrug yn 2007. Wedi llwyddiant yr eisteddfod, penderfynodd y trefnwyr drefnu eu gŵyl ddiwylliannol flynyddol eu hunain, a phenderfynwyd trefnu gŵyl fawr a gŵyl fechan am yn ail er mwyn osgoi mynd i drafferthion ariannol.

Daw’r gair Tegeingl o’r hen enw Rhufeinig am Ogledd-Orllewin Cymru, a bwriad y trefnwyr oedd y byddai defnyddio’r enw anghyffredin yma yn talu teyrnged i’r holl hanes a diwylliant sy’n perthyn i’r ardal, yn ogystal â thynnu sylw at yr ŵyl.